'A dyna fi': George North i ymddeol o rygbi

Wednesday, 29 April 2026 12:35

By Ystafell Newyddion MônFM

URC / Huw Evans Picture Agency

Bydd George North yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor ar ôl gyrfa sy'n ymestyn dros 16 mlynedd.

Mae'r chwaraewr 34 oed, a fagwyd ar Ynys Môn, wedi ennill dwy Gamp Lawn a phedair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru.

Ar lefel clwb, bu North yn cynrychioli’r Scarlets, Northampton - lle enillodd Uwch Gynghrair Lloegr a Chwpan Her Ewrop - y Gweilch ac yn diweddar, Provence yn Ffrainc.

North, a ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn 2024, yw'r olwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad o'r gêm broffesiynol ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd North: "Ro’n i eisiau gadael i bawb wybod y byddai’n ymddeol ddiwedd y tymor yma. Dyma yw’r amser iawn i mi wneud y penderfyniad a’r cyhoeddiad yma."

"Dwi wedi llwyddo gwireddu breuddwydion fy mhlentyndod a chael y cyfle i weithio gyda rhai o staff, chwaraewyr a hyfforddwyr gorau’r byd."

"Alla’i ddim diolch digon i fy nheulu, fy ffrindiau a’r cefnogwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd. Byddaf wastad yn gwerthfawrogi a thrysori hynny."

"Y bennod nesaf? Dwi ddim yn siwr yn union beth sydd ar y gorwel – ond dwi’n gyffrous am yr hyn sydd i ddod – beth bynnag fydd hynny."

Er iddo gael ei eni yn Norfolk, symuddod i Ynys Môn gyda'i deulu yn ddwy oed a mynychodd Ysgol Uwchradd Bodedern.

Chwaraeodd rygbi ieuenctid i Langefni, Pwllheli a’r Rhyl, a enillodd ysgoloraieth rygbi i Goleg Llanymddyfri, lle cafodd ei symud o’r ail reng i safle’r canolwr. Chwaraeodd i dimau dan 16 ac o dan 18 Cymru cyn iddo ymuno ag Academi’r Scarlets.

Gwnaeth North ei ymddangosiad cyntaf dros brif dîm y Scarlets yn erbyn Benetton Treviso ym mis Medi 2010 – ac fe sgoriodd ddwywaith.

Wedi iddo ddisgleirio gyda’r Llewod yn Awstralia, pan sgoriodd dau gais yn ystod buddugoliaeth y teithwyr yn y gyfres o 2-1, penderfynodd George North adael Parc y Scarlets.

Symudodd i Northampton yn 2013, ac o fewn blwyddyn, roedd wedi ennill Uwch Gynghrair Lloegr a Chwpan Her Ewrop yn ei dymor cyntaf.

Ar ddechrau tymor 2018/19, dychwelodd i Gymru ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch. Symudodd i Providence ar gontract dwy flynedd yn 2024, lle mae wedi gwneud 16 ymddangosiad i glwb yr Ail Adran.

Gwnaeth North ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn 2010, gan sgorio dau gais mewn gêm ryngwladol yn yr Hydref yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd. Rhwng 2010 a 2024, enillodd 121 o gapiau a sgoriodd 47 o geisiau dros ei wlad.

Tra roedd North yn ei arddegau, fe enillodd 20 cap ac ef oedd y chwaraewr cyntaf erioed i sgorio 10 o geisiau rhyngwladol ac yntau’n dal yn ei arddegau.

Daeth carreg filltir arall yn ei yrfa ar 28 Chwefror 2015 wrth i Gymru herio Ffrainc, gan i North ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae mewn hanner cant o gemau prawf.

Bu North yn aelod allweddol o dimau Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2012 a 2019, heb anghofio am deitlau’r Chwe Gwlad yn 2013 a 2021 hefyd. Roedd ei ddau gais yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 2019 yn allweddol wrth sicrhau’r Gamp Lawn y flwyddyn honno.

Yn 2023, teithiodd gyda Chymru i’w bedwerydd Cwpan y Byd – ac fe sgoriodd yn erbyn Fiji a Georgia gan godi ei gyfanswm yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd i chwe chais.

Cafodd ei anafu yn ei gêm ryngwladol olaf - gêm Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal - ym mis Mawrth 2024, gan ohirio ei ymddangosiad cyntaf i Providence tan fis Ionawr 2025.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Chwaraeon

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'