Cyllid i wella cyfleusterau chwaraeon

Tuesday, 12 November 2024 17:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Dura Sport

Bydd dau leoliad hamdden yn rhannu £225,000 o gyllid i wella eu cyfleusterau.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi sicrhau grant gan Chwaraeon Cymru o bron i £150,000 i foderneiddio llawr y neuadd chwaraeon yng nghanolfan hamdden Plas Arthur yn Llangefni.

Yng Ngwynedd, bydd dros £75,000 yn cael ei wario ar gae ymarfer glaswellt artiffisial ar leoliad presennol ardal gemau amlddefnydd Glaslyn.

Bydd y cae yn darparu cyfleuster cymunedol a fydd yn annog pobl o bob oed, rhyw a gallu mewn ardal wledig i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Dros Cymru gyfan, bydd 37 o brosiectau yn rhannu cyfanswm o £3.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dwyeddfod llefarydd ar ran Chwaraeon Cymru: "Bydd y cyllid yn ehangu mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith cymunedau, yn creu mwy o gaeau artiffisial mewn mannau sydd eu hangen fwyaf, a hefyd yn cefnogi ein hathletwyr mwyaf talentog i gyflawni eu breuddwydion."

Ychwanegodd: "Mae pob grant yn amodol ar fodloni telerau ac amodau penodol. Mae rhai o'r prosiectau eisoes ar y gweill, tra bod eraill wedi'u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

More from Chwaraeon

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    7:00am - 10:00am

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'