
Deallusrwydd artiffisial yw un o bynciau llosg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda thrafodaeth am ei ddylanwad ar raglen y Pentre Gwyddoniaeth a'r Babell Lên.
Mae AI i roi ei dalfyriad gyffredin, yn cyfeirio at allu systemau cyfrifiadurol i gyflawni tasgau sydd fel arfer yn gofyn am ddeallusrwydd dynol, fel dysgu, datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
Mae systemau AI wedi'u cynllunio i brosesu data, nodi patrymau a gwneud rhagfynegiadau yn seiliedig ar y wybodaeth honno.
Yn y Pentre Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy'n cael ei cyd-gordio eleni gan M-SParc; Parc Gwyddoniaeth Ogledd Cymru, y prifardd Rhys Iorwerth fydd yn cadeirio'r sesiwn A Oes AI? prynhawn dydd Iau am 14:45.
Cyflwynir y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg i Dewi Bryn Jones am ei waith arloesol yn creu meddalwed ac apps yn y Gymraeg. Cyflwynwyd y Fedal gyntaf yn 2004 i'r athro Glyn O Phillips.
Yn enedigol o Rhosllannerchrugog fe wnaeth gyfraniad eithriadol i wyddoniaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Bu farw yn 2020 ond mae ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli ac yn cael ei adlewyrchu yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan annog cenedlaethau newydd i ddilyn ei gam. Telir teyrnged iddo mewn cyflwyniad arbennig brynhawn dydd Iau am 3pm.
Mae Sioe Wyddoniaeth M-SParc yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod eleni, gyda ffocws ar Tonnau.
"Be di'r ton, yr egni, sy'n dod a ni nol at ein gilydd, a sy'n plethu mewn i'n bywydau pob dydd? Byddwn yn edrych ar tonnau'r mor, tonnau sain, a hyd yn oed y tonnau sydd tu mewn i'n cyrff."
"Bydd cyfle i ddeall curiad calon, a cael gweld yn fyw sut mae cerdd yn cyraedd ein clystiau. Gyda rhywbeth newydd i bawb o bob oed ddysgu, 'da ni'n annog bobl i ddod i cofio pam fod Gwyddoniaeth mor diddordol – oherwydd ei fod yn rhan o'n bywydau ni i gyd pob dydd."
"Mae'r sioe yn lot o hwyl," meddai Emily Roberts, rheolwr allgymorth a chymuned M-SParc yng Ngaerwen.
Gobaith trefnwyr y Pentre Gwyddoniaeth a Thechnoleg yw fod rhywbeth i bawb er mwyn i blant cael codi diddordeb mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac i oedolion cofio pa mor hwyl ydi'r pwnc a dysgu pethau newydd.
Ychwanegodd Emily: "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad eang o ddiwylliant, iaith a hunaniaeth Gymreig - ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae un ardal wedi disgleirio fel man lle mae traddodiad yn cyfarfod â'r dyfodol: y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg."
"Dyma le mae arloesi'n cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg, lle mae plant yn dysgu trwy chwarae, lle mae'r to hyn yn darganfod technolegau newydd mewn ffordd hawdd i'w deall, ac mae pawb yn cael profiadau rhyfeddol a bythgofiadwy."
"Mae'r pentref hwn yn rhan hanfodol o'r Eisteddfod, gan gynnig llwyfan i fudiadau, cwmnïau ac arbenigwyr rannu syniadau arloesol, datblygiadau diweddar, ac ymchwil gyffrous."
"Boed yn ymwneud ag iechyd, ynni adnewyddadwy, deallusrwydd artiffisial neu amaethyddiaeth, mae'r pentref yn cynnig rhywbeth i bawb - plant ysgol, pobl ifanc, teuluoedd, arbenigwyr, a'r to hyn fel ei gilydd."
"Dewch i ddarganfod y dyfodol!"