
Mae partneriaeth newydd rhwng M-SParc ac Eisteddfod Genedlaethol yn anelu at osod safon newydd o ran cynaliadwyedd mewn gwyliau diwylliannol mawr yng Nghymru.
Bydd y bartneriaeth yn gweithio i ddatblygu strategaeth Net Zero gynhwysfawr, gan sefydlu gwaelodlin ar gyfer allyriadau carbon presennol, darparu hyfforddiant i’r staff a’r gadwyn gyflenwi, ac amlinellu cynllun gweithredu i leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Bydd yr fenter yn cynnwys pob stondinwr, cyflenwr, a busnes ar y Maes, gyda Busnes Cymru yn cynnig cymorth pwrpasol i helpu’r busnesau hyn i ddatgarboneiddio.
Er bod yr Eisteddfod eisoes wedi cymryd camau sylweddol tuag at fod yn fwy cynaliadwy, bydd y cam nesaf hwn o waith yn dod â mwy o ffocws, cydlyniant ac arloesedd i’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Croesawodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, y prosiect a’r cyfle i helpu gwyliau eraill ledled Cymru: "Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i’r Eisteddfod arwain ar yr agenda datgarboneiddio ac i rannu’r dysgu gyda’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan adael etifeddiaeth barhaol."
"Rydyn ni eisoes wedi cychwyn ar y daith, ac edrych ymlaen at weithio gyda M-SParc er mwyn cyrraedd y nod."
Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel yn M-SParc sydd yn arwain ar y cynllun: "Mae’r Eisteddfod yn gonglfaen i ddiwylliant Cymru, a drwy gydweithio gallwn sicrhau ei bod yn arwain y ffordd o ran sut gall digwyddiadau mawr addasu i wynebu heriau’r hinsawdd."
"Mae hyn yn fwy na gweithredu carbon niwtral, mae’n golygu trawsnewid y ffordd rydym yn cynllunio, adeiladu, pweru a rhedeg gwyliau. Mae brwdfrydedd gwirioneddol gan bawb sydd ynghlwm, ac rydym yn falch o helpu i lunio dyfodol gwyrdd i’r Eisteddfod."
Dywedodd Dave ap John, Datblygu Busnes a Gwasanaethau Twf, Busnes Cymru: "Mae datgarboneiddio ein heconomi yn un o’r heriau mwyaf o’n hoes – ac yn gyfle mawr i fusnesau Cymru i arloesi, tyfu ac arwain y ffordd."
"Rwy’n falch bod Busnes Cymru, drwy ein partneriaeth â M-SParc, yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi ein busnesau bach i gymryd camau ystyrlon tuag at Net Zero."
"Mae’r gwaith gyda’r Eisteddfod a dros 100 o fusnesau yn y gadwyn gyflenwi yn enghraifft wych o sut gallwn droi uchelgais yn weithredu, a sicrhau bod ein digwyddiadau mwyaf eiconig yn rhan o ddyfodol mwy cynaliadwy i Gymru."
Bydd yr Eisteddfod yn gweithio’n agos gyda M-SParc i wreiddio meddylfryd carbon isel yng nghanol cynllunio a chyflwyno’r Eisteddfod, o ran logisteg, teithio a defnydd ynni, i raglennu creadigol a chaffael lleol.
Yn ôl M-SParc, sydd wedi'i leoli yn Gaerwen, mae'r bartneriaeth yn gam pwysig ymlaen wrth uno traddodiadau diwylliannol Cymru â’r ymrwymiadau cenedlaethol i’r hinsawdd, gan brofi bod creadigrwydd a chynaliadwyedd yn gallu, ac yn gorfod, mynd law yn llaw.
Bydd y gwaith yn cychwyn ar y Maes ym mis Awst gyda gwaith ymchwil a chasglu data, ac yna bydd M-SParc yn darparu cwrs Llythrennedd Carbon i dîm yr Eisteddfod yn yr Hydref.
Anogir arweinwyr busnes a sefydliadau eraill sydd am ddysgu o brofiadau M-SParc neu sydd eisiau deall beth mae Net Zero yn ei olygu i gymryd rhan yn y cwrs achrededig hwn fel man cychwyn. Cysylltwch â rhodri@m-sparc.com i gael gwybodaeth bellach, neu ewch i gwefan M-SParc.