Ail Gadair i Lois Medi

Thursday, 28 May 2026 14:30

By Ystafell Newyddion MônFM

Urdd Gobaith Cymru

Lois Medi o Benrhosgarnedd sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd ym Mona - y ferch gyntaf i ennill dwy Gadair yn hanes yr ŵyl.

Enillodd Lois y Gadair yn 2024, yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, sy'n golygu mai hi yw'r ferch gyntaf yn hanes y gystadleuaeth i ennill y gadair ar fwy nag un achlysur, a'r person cyntaf i wneud ers Gwynfor Dafydd yn 2016-17.

Daw Lois yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor ond mae hi ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio draw yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Mae hi'n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor lle'r enillodd ei chadair Eisteddfodol gyntaf.

Mynychodd Ysgol Tryfan, Bangor ac Ysgol Gyfun David Hughes, Porthaethwy cyn graddio o'r LSE mewn Anthropoleg Gymdeithasol.

Meddai Lois: "Ers yn blentyn, mae ysgrifennu creadigol wedi bod yn ddiléit. Mae barddoni yn gyfrwng arbennig i roi trefn ar fy meddyliau am y byd o' fy nghwmpas.”

”Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi a'm hannog i fynegi fy nghreadigrwydd, yn arbennig fy rhieni, fy chwiorydd, Marged a Sara a fy nghariad, Iestyn."

Dyfarnwyd iddi Dlws D. Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas yn 2024, ac yn yr un flwyddyn fe'i cadeiriwyd yn Brifardd Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn.

Mae Lois wedi cyhoeddi cerddi yn FfosfforwsO Ffrwyth y Gangen Hon a Barddas, a chyhoeddwyd ei phryddest Gwrthryfela gan Gyhoeddiadau'r Stamp yn rhan o gynllun cyhoeddi gweithiau buddugol prif gystadlaethau llenyddol yr Urdd.

Mae hi'n hynod gyffrous o'r cyfle gwerthfawr hwn eto eleni ac yn diolch yn ddiffuant i griw'r Stamp am eu llafur.

Draw ym Mhatagonia y llynedd, enillodd Gadair Eisteddfod Trevelin a Gwobr y Delyn, prif wobr lenyddol Eisteddfod Porth Madryn.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun 'Pontio' gyda deuddeg ymgais yn dod i law.

Mae casgliad Lois yn archwilio'r bont rhwng bywyd go iawn a byd technoleg.

Dywedodd y beirniaid Manon Wynn Davies a Rocet Arwel Jones fod Lois yn deilwng o Gadair yr Eisteddfod eleni oherwydd fod "pob cerdd yn y casgliad aeddfed a chyfoes yn haeddu ei lle ac yn cynnig sylwebaeth graff ac amserol ar gymdeithas heddiw."

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Nanw Maelor o'r Wyddgrug, a Steffan Rhys Nicholas o Aberystwyth yn drydydd.

Bydd y gwaith buddugol ynghyd â'r feirniadaeth ar gael i'w darllen yng Nghyhoeddiadau'r Stamp ar ôl y seremoni.

Siôn Edwards o Lanfaelog, Ynys Môn yw'r saer sy'n gyfrifol am Gadair yr Eisteddfod eleni, a hynny'n seiliedig ar ddyluniad y pensaer Rhiannon Williams o gwmni DEWIS Architecture, gyda nawdd Cymdeithas Amaethyddol Môn. Roedd dyluniad Rhiannon yn seiliedig ar y thema 'afonydd i'r môr', ac yn rhoi sylw i felinau gwynt yr ynys hefyd.

Bydd y cyntaf, yr ail a'r trydydd yn y cystadlaethau llenyddol drwy gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosibl drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Urdd 2026 ar MônFM

    4:00pm - 7:00pm

    Ymunwch â Tomos Dobson a'r criw am hynt a helynt Eisteddfod yr Urdd ym Mona.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'