Ail Gadair yr Eisteddfod i Tudur

Friday, 8 August 2025 16:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Tudur Hallam sy’n ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

Dyma’r eildro i’r bardd dderbyn y wobr, yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn 2010.

Fe’i chyflwynir am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 llinell, ar y testun ‘Dinas’.

Y beirniaid yw Peredur Lynch, Llŷr Gwyn Lewis a Menna Elfyn. Rhoddir y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru, a’r wobr ariannol gan Goleg Cambria.

Ar ddechrau’r feirniadaeth yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, dywed y beirniaid: "Nid yw’r testun eleni yn un anghyfarwydd yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe gofir am bryddest enwog TH Parry-Williams ym Mangor yn 1915."

"Yng Nghaerdydd wedyn, yn 1978 yn y gobaith, mae’n debyg, o gael awdl yr un mor orchestol, ‘Y Ddinas’ oedd testun y Gadair. Atal fu raid y flwyddyn honno, ac eleni, yn ninas newydd Wrecsam, wele’r un testun yn ei ôl."

"Ond y mae gwahaniaeth y tro hwn; hepgorwyd y fannod, sy’n golygu y gellir trin y testun, yn gwbl ddilys, fel enw gwrywaidd ac iddo’r hen ystyr ‘caer, amddiffynfa’ a hefyd fel enw benywaidd yn ei ystyr fwy diweddar."

"Mae gwahaniaeth arall rhwng eleni a 1978. O’r cychwyn cyntaf, roedd yn gwbl amlwg i’r tri ohonom y byddai cadeirio. Tua’r brig, roedd hon yn gystadleuaeth anghyffredin o gref."

Yn ei feirnidaeth unigol yn y gyfrol dywed Peredur Lynch: "Fe’m twyllwyd yn llwyr gan gywydd agoriadol yr awdl hon, a chredaf mai dyna oedd y bwriad. Yr ydym yng nghwmni tîm pêl-droed criw o ferched ysgol o Sir Gaerfyrddin, a’u hyfforddwr yw’r bardd."

"Y mae’r merched o’r Gorllewin newydd gael eu curo gan dîm o Gaerdydd – o bob man! – mewn cystadleuaeth gwpan, a hynny yn y ffeinal."

"Mae’r ymateb yr hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan hyfforddwr glew o’r Gorllewin – diawlio Caerdydd i’r cymylau, y tîm pêl-droed merched a’r ddinas ei hunan! Ac oes, mae angen cysuro’r trŵps a’u hymwroli ar gyfer talu’r pwyth yn ôl."

"Wrth i mi ddarllen yr agoriad hwyliog hwn i’r awdl am y tro cyntaf, cystal cyfaddef fod fy ymateb greddfol rywbeth yn debyg i hyn: ‘Difyr iawn, ond mae angen mwy na chywydd ysgyfala fel hwn i ennill Cadair y Genedlaethol."

"Ac yna, wele droi at yr ail ganiad, ac mewn amrantiad derbyniais ddwrn egr ym mhwll fy stumog, sef y llinell ‘Chwe mis? Deg mis? ’Chydig mwy?’"

"Heb unrhyw baratoad, fe’n gwysiwyd fel darllenwyr gan y bardd o ganol cae pêl-droed i Ysbyty Glangwili lle mae’n derbyn diagnosis o gancr yr asgwrn a chancr ymledol (fe ymddengys) yn yr iau."

"Fe’m twyllwyd, meddwn i uchod. A thwyllwr yw bywyd. Ar gae pêl-droed yn llawn her a brafado un diwrnod; ein byd â’i ben i waered y diwrnod nesaf."

"Wrth benderfynu ar fuddugwr, dod yn ôl at Y gylfinir a wnawn i o hyd ac o hyd. Felly y bu yn hanes fy nghyd-feirniaid. Fel yr esbonia Llŷr, cawsom drafodaeth onest ynghylch ein cymhellion."

"Ai ymateb i’r gerdd ei hunan yr oeddem ynteu ymateb yn dosturiol i sefyllfa’r bardd a’i lluniodd? Gafael y gerdd arnom oedd sail ein penderfyniad, a bu iddi afael ynom am y rheswm a ganlyn."

"Defnyddiodd Pwyll a Breugel holl adnoddau eu creadigrwydd llachar i lunio awdlau nodedig. Am resymau amlwg, gwnaeth Y gylfinir rywbeth gwahanol. Fe ganodd ef gân o ddyfnderoedd isaf ei fod, a llunio awdl na ddymunasai erioed ei llunio."

Meddai Menna Elfyn: "Mi wnes oedi’n hir cyn ysgrifennu fy ymateb i awdl Y gylfinir. Hir fyfyrio. A hynny am nad yw’n debyg i’r un awdl na phryddest a welwyd eisoes yn ennill Cadair na Choron yn y Genedlaethol."

"Canodd prifeirdd eraill am farwolaeth aelodau o deulu neu drasiedi angheuol cydnabod neu ffrindiau iddynt ond dyma’r tro cyntaf i mi ddod ar draws rhywun yn ysgrifennu am ei gyflwr ei hun a’i feidroldeb, yn gignoeth a heb arlliw o hunandosturi."
"Mae’r englynion milwr mor gryno ac yn epigramau godidog wrth iddo fesur amser a throi at groesholi geiriau ac amser, doe a heddiw gan holi beth yw ennyd yn nhrefn einioes."

"Gwelir yn glir yn y darn olaf mor rheidus yw i’r bardd lynu at farddoniaeth fel rhan o’i anadl einioes. Lleisia yn dawel, yn dyner, yn gariadus, yn felodaidd wrth ddarlunio byw a byd sydd iddo’n hyfyw, egnïol."

"Gedy ddarlun ohono yn y diweddglo yn cael ei dynnu o’i feddyliau gan un o’r plant yn gweiddi ‘Dere Dad’: ‘wâc â’r bae i gicio’r bêl / a’n gyrru tua’r gorwel."

"Diweddglo hyfryd yw ohono’n gwneud y pethau bychain di-nod ond hollbwysig ac yn ymateb i symlrwydd bywyd plentyn. Afraid dweud y caiff yr awdl hon ei darllen yn helaeth ac yn enwedig gan y rhai sy’n anghenus a newynog am farddoniaeth fel balm i’r galon mewn dyddiau geirwon."

"Dyna yw’r hyn y dylai barddoniaeth ei wneud sef ein hatgoffa ni, ie, ohonom ni ein hunain ac mae hon yn bendant yn rhoi gwefrau iasoer ond hefyd yn atsain yn orfoleddus beth yw byw a hynny o enau bardd sy’n canu o dannau tyn ei awen gain."

Dywed Llŷr Gwyn Lewis: "Wrth ddechrau darllen awdl Y gylfinir am y tro cyntaf, teimlwn yn lled hyderus y gallwn yn ddigon caredig a theg osod y gwaith yn agos at frig yr Ail Ddosbarth, a byddwn wedi cyflawni fy nyletswydd."

"Yna parheais i ddarllen tua’r ail ganiad a thu hwnt, ac ailddarllen y cyfan wedyn drachefn a thrachefn, a thyfodd yr ymdeimlad hwnnw o ddyletswydd ac o gyfrifoldeb."

"Rydym ein tri wedi mabwysiadu agwedd go Fethodistaidd rywsut at y gwaith gan inni dderbyn, yn ddigwestiwn bron, mai mynegiant geirwir o brofiad go iawn sydd yn yr awdl hon, ac nid ffrwyth y dychymyg."

"Fe allai fod hynny yn arwydd o rym a gonestrwydd y gwaith a’r modd y’n hargyhoeddodd yn llwyr (nid bod angen i’r math hwn o ganu ‘argyhoeddi’ chwaith)."

"… Mae synnwyr yn dweud bod rhaid i rywun geisio bod mor wrthrychol â phosibl, bod rhaid ystyried y gerdd yn ôl ei rhinweddau a’i haeddiant ei hun, a chau allan yr holl bethau eraill sydd yn hofran ar ymyl y ddalen."

"Er amhosibilrwydd gwneud hynny’n llwyr, bydded hysbys nad o drugaredd na thrueni y daethom i’n penderfyniad: y gerdd ei hun sydd yn mynnu’r clod, yr awdl ei hun sydd yn cipio’r anadl ac yn tynnu dagrau: y farddoniaeth sydd yn aros."

"Yn wir, byddai’n llawer llawer gwell gen i pe na bai Y gylfinir wedi gorfod cyfansoddi’r awdl hon o gwbl. Canodd gân na fyddai neb byth yn gorfod dymuno’i chanu: ond o’i chanu, fe’i canodd â grym croyw, cofiadwy, dirdynnol, gan dynnu ar ei holl gyneddfau fel bardd."

"…Rwyf yn gwbl sicr ac yn dawel fy meddwl mai eiddo Y gylfinir yw Cadair Wrecsam. Diolch iddo am ei ddewrder, ei onestrwydd, ei genadwri inni o le mor arswydus ac unig a fydd yn gysur calon, does dim dwywaith gennyf, i rai sydd yn mynd drwy brofiadau tebyg i’r eiddo ef ei hun. Braint fydd bod yno i dystio i’w gadeirio."


Mae Tudur Hallam yn byw gyda’i wraig, Nia, a’u plant Garan, Bedo ac Edwy yn Foelgastell, Sir Gaerfyrddin. Mae’n athro emeritws ym Mhrifysgol Abertawe lle y bu’n addysgu ac ymchwilio ym maes y Gymraeg.

Carai Tudur ddiolch i’w deulu a’i ffrindiau am bob arwydd o gariad a chefnogaeth, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ei gymuned, mae wedi mwynhau hyfforddi timoedd rygbi a phêl-droed, gan gynnwys tîm pêl-droed merched dan 14 oed Sir Gaerfyrddin; a charai ddiolch i aelodau’r tîm eleni ac i’w gyd-hyfforddwyr, Dean Williams a Steve Lewis, am eu cefnogaeth.

Yn llenyddol, mae dyled Tudur yn fawr i’w athrawon yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Maes yr Yrfa, ei ddarlithwyr prifysgol yn Aberystwyth, y timau talwrn y bu’n aelod ohonynt, ei gyd-ddarlithwyr a’i fyfyrwyr yn Abertawe, ei gyfaill agos, Robert Rhys, ynghyd â’r Urdd.

Roedd ennill y Fedal Lenyddol a Chadair yr Urdd yn hwb i ddilyn gyrfa ym maes llenyddiaeth. Yn 2010, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2019, cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Parcio.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

  • A Oes Carbon? Uno dros Eisteddfod ddi-garbon

    Mae partneriaeth newydd rhwng M-SParc ac Eisteddfod Genedlaethol yn anelu at osod safon newydd o ran cynaliadwyedd mewn gwyliau diwylliannol mawr yng Nghymru.

  • Cadair Tudur

    Dyfarnwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam i Tudur Hallam am gerddi hynod bersonol yn ymwneud â'i brofiad o gael diagnosis canser.

  • O Farnwr i Arlywydd - Nic Parry

    Mae Nic Parry wedi cael eu cyhoeddi fel llywydd newydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.

  • Y Gadair - Wrecsam 'Ddoe, Heddiw ac Yfory'

    Glo, pêl-droed, pont dŵr a bragdai'r ardal yw'r ysbrydoliaeth i'r crefftwyr sy'n creu Cadair Eisteddfodol sy'n cyfleu 'Ddoe, Heddiw ac Yfory' yn Wrecsam.

  • Lucy yw Dysgwr y Flwyddyn

    Mae Lucy Cowley, athrawes ysgol sy'n byw Llangollen wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eglwys Genedlaethol yn Wrecsam.

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Hughes

    8:00am - 11:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'