Artist o Fôn yn ennill gwobr Josef Herman

Sunday, 9 August 2026 17:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae artist o Ynys Môn wedi ennill Gwobr Josef Herman ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod Genedlaethol Garreg Las.

Dyfarnwyd wobr Dewis y Bobl i Diane Williams am ei gwaith emosiynol a arddangoswyd yn Y Lle Celf yn ystod y Brifwyl.

Mae gwisg nos plentyn bach wedi'i brodio ag enwau 300 o blant na chyrhaeddodd eu blwydd oed yn Gaza.

Rhoddir y wobr i'r darn o waith, neu gasgliad, mwyaf poblogaidd yn yr arddangosfa agored. Cafodd Eisteddfodwyr y cyfle i fwrw eu pleidlais dros eu hoff waith yn ystod eu hymweliad â'r Lle Celf.

Wrth dderbyn y wobr dywedodd Diane: "Roedd creu y darn yn brofiad emosiynol iawn gan i mi gofnodi 300 o enwau babanod na chyrhaeddodd eu blwydd oed yn Gaza. Canran fechan iawn o'r plant sydd wedi cael eu lladd yn ddidostur."

"Roeddwn yn teimlo rhyw rwymedigaeth foesol i greu y gwaith er mwyn annog sgwrs ac ymgysylltiad gyda reality o'r erchylldra sy'n digwydd yno'n ddyddiol."

"Mae'r ymateb gan y gynulleidfa i'r wisg yn dangos ein bod ni'genedl ofalgar, llawn empathi a chariad a dwi'n falch iawn o ddweud bydd yr arian yn mynd i MAP, Medical Aid for Palestine."

Gyda chefnogaeth Sefydliad Celf Josef Herman Cymru, dyfernir £500 i'r artist sydd wedi creu'r gwaith neu'r casgliad o weithiau mwyaf poblogaidd yn yr Arddangosfa Agored. Gwahoddir y cyhoedd i weld y gwaith yn ofalus cyn pleidleisio dros eu hoff waith.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Boed yn serameg, tecstilau neu baentio, mae'r cyhoedd weithiau'n cytuno â'r detholwyr ac yn pleidleisio dros un o enillwyr y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain neu Grefft a Dylunio."

"Ar adegau eraill, mae'r bobl yn dewis enillydd hollol wahanol. Beth bynnag yw'r canlyniad, mae'n annog y cyhoedd i ymgysylltu â'r gweithiau celf a chymryd perchnogaeth o Y Lle Celf."

Sefydlwyd y wobr yn eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995 yn dilyn awgrym gan yr arbenigwr celf Miles Wynn Cato – aelod o Glwb Daniel, Llundain. Ariannwyd y wobr gyntaf erioed gan aelodau'r clwb a sefydlwyd gan gyfreithwyr o Gymru yn y 18fed ganrif.

Ers 2008 mae'r wobr wedi cael ei noddi gan Sefydliad Celf Josef Herman Cymru ac yn 2011 cafodd ei hailenwi'n Wobr Josef Herman – Dewis y Bobl.

Mae hwn yn gysylltiad addas gan i'r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain gael ei dyfarnu i Josef Herman am ei gyfraniad at gelf yng Nghymru a thu hwnt yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Llanelli ym 1962.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'