Cadair Tudur

Saturday, 9 August 2025 08:24

By Eryl Crump

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Dyfarnwyd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam i Tudur Hallam am gerddi hynod bersonol yn ymwneud â'i brofiad o gael diagnosis canser.

Mewn seremoni llawn emosiwn brynhawn Gwener, cododd y pafiliwn ar eu traed i gymeradwyo'r bardd buddugol wrth i'r archdderwydd ei gyfarch.

Bu brawd Tudur, Gwion Hallam, hefyd yn annerch y pafiliwn i'w gyfarch gyda cherdd emosiynol.

Dyma'r eildro i Tudur Hallam dderbyn y wobr, yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent yn 2010.

Yn dilyn y seremoni dywedodd Mr Hallam fod y profiad o sefyll yn y pafiliwn i'w gyfarch fel enillydd y gadair yn "wefreiddiol".

"Roedd yn achlysur emosiynol iawn, yn enwedig pan gododd y gynulleidfa i'w traed yr eildro. Ond wedi i mi gyfarch fy nheulu fe wnes ymlacio ychydig a mwynhau'r seremoni'n. Roedd yr Eisteddfod a'r Orsedd wedi gwneud pobpeth gallent i wneud pethau'n rhwyddach," meddai.

Derbyniodd Mr Hallam sdiagnosis o ganser yn ystod wythnos yr Eisteddfod llynedd ac am fisoedd wedyn nid oedd yn medru ysgrifennu dim byd yn Gymraeg.

"Dwi'n teimlo'n hapus, teimlo yn falch mod i wedi cystadlu achos doeddwn ddim yn siwr os dyliwn gyflwyno'r awdl a'i peidio Dwi wedi bod yn eitha gymysglyd am y peth gan fod cynnwys yr awdl yn ddirdynol ond mae heddiw yn teimlo fel dathliad."

"Mae ennill y Gadair neu'r Goron yn gamp ac o glywed ei bod yn gystadleuaeth gref dwi'n teimlo'n hynod ffodus mod i wedi ennill a dweud y gwir," meddai.

Penderfynodd cynnig am Gadair yr Eisteddfod a dywedodd fod cefnogaeth ei deulu a'i feddygon wedi galluogi iddo wneud hynny.

Dwi'n credu fod ysgrifennu yn medru bod o help mawr i bobl ac yn bersonol o'n i eisiau 'sgwennu yn syth bin ar ol y diagnosis ond o'n i'n methu.

Dwi'n meddwl mod i mewn stad o sioc a wedyn mis Ionawr, ar ol cael newydd drwg fod y driniaeth oedd i fod i brynu amser imi ddim wedi gweithio yn sydyn dyma'r geiriau yn dechrau llifo ohonai a nawr dwi'n falch mod i wedi creu rhywbeth sy'n bositif allan o sefyllfa ddigon anodd.

Clywodd y gynulleidfa yn y Pafiliwn fod 15 wedi cystadlu eleni - y nifer fwyaf ers 1989, a dywedodd y beirniaid y bu hi'n gystadleuaeth "anghyffredin o gref".

"Mae gwybod ei fod wedi bod yn gystadleuaeth gref a gallai'r gadair fod wedi ei ennill gan sawl bardd yn rhoi cysur," meddai.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol ar y testun 'Dinas'.

Yn ei feirnidaeth dywed Peredur Lynch: "Fe'm twyllwyd yn llwyr gan gywydd agoriadol yr awdl hon, a chredaf mai dyna oedd y bwriad."

"Yr ydym yng nghwmni tîm pêl-droed criw o ferched ysgol o Sir Gaerfyrddin, a'u hyfforddwr yw'r bardd."

"Y mae'r merched o'r gorllewin newydd gael eu curo gan dîm o Gaerdydd – o bob man! – mewn cystadleuaeth gwpan, a hynny yn y ffeinal."

"Wrth i mi ddarllen yr agoriad hwyliog hwn i'r awdl am y tro cyntaf, cystal cyfaddef fod fy ymateb greddfol rywbeth yn debyg i hyn: 'Difyr iawn, ond mae angen mwy na chywydd ysgyfala fel hwn i ennill Cadair y Genedlaethol'."

"Ac yna, mewn amrantiad derbyniais ddwrn egr ym mhwll fy stumog, sef y llinell 'Chwe mis? Deg mis? 'Chydig mwy?'

"Heb unrhyw baratoad, fe'n gwysiwyd fel darllenwyr gan y bardd o ganol cae pêl-droed i Ysbyty Glangwili lle mae'n derbyn diagnosis o gancr yr asgwrn a chancr ymledol yn yr iau."

"Fe'm twyllwyd, a thwyllwr yw bywyd. Ar gae pêl-droed yn llawn her a brafado un diwrnod; ein byd â'i ben i waered y diwrnod nesaf."  

Eglurodd y bardd ei fod yn hyfforddwr ar dim pêl-droed merched yn sir Gaerfyrddin a'u nod yw ennill pob gem ac yn arbennig yn erbyn timau o'r dinasoedd felly roedd yn naturiol iddo gychwyn ei gerdd gyda'r tim.

Mae Tudur Hallam yn byw gyda'i wraig, Nia, a'u plant Garan, Bedo ac Edwy yn Foelgastell, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd yr Eisteddfod fod Tudur Hallam eisiau diolch i'w deulu a'i ffrindiau am bob arwydd o gariad a chefnogaeth, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Sport with Ryan McKean

    2:00pm - 5:00pm

    Ryan McKean keeps you up to date with all the latest football scores across North Wales

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'