
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn talu teyrnged arbennig i Geraint Jarman nos Fercher.
Bu farw'r cerddor, awdur ac actor ym mis Mawrth yn 74 oed.
Roedd Jarman yn ffigwr hynod ddylanwadol ym myd y celfyddydau yng Nghymru – cerddor, bardd, actor, gwneuthurwr ffilmiau, ac yn fentor i genedlaethau o artistiaid ifanc.
Er iddo greu a pherfformio yn Gymraeg, ei iaith gyntaf, roedd ei waith yn llawn dylanwadau rhyngwladol – o farddoniaeth Ewropeaidd i reggae, roc, canu gwlad a llawer mwy. Roedd ganddo weledigaeth glir: dangos bod Cymru'n rhan annatod o'r byd diwylliannol ehangach.
Roedd ei ganeuon yn gallu bod yn felys, yn bigog, neu'n chwareus – bob amser yn wreiddiol ac yn ddirdynnol.
Ganwyd Geraint Jarman yn Ninbych, ond symudodd gyda'i deulu i Gaerdydd pan oedd ond yn bedair oed – symudiad a fyddai'n dylanwadu'n fawr ar ei fywyd a'i waith creadigol.
Wedi gadael yr ysgol, fe ffurfiodd y grŵp Bara Menyn gyda Heather Jones a Meic Stevens – enw doniol ond ystyrlon, gan gyfeirio at yr angen i ennill bywoliaeth er mwyn gallu dilyn eu breuddwydion artistig.
Roedd Jarman yn arloeswr o'r cychwyn cyntaf. Cyd-ysgrifennodd opera roc-gwerin gyda Meic Stevens, Etifeddiaeth Drwy'r Mwg, a ddarlledwyd ar HTV yn 1970 fel arbrawf arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi – yn trafod materion amgylcheddol mewn ffordd hollol newydd ar y pryd.
Yn 1976, rhyddhaodd ei albwm cyntaf Gobaith Mawr y Ganrif ar label Sain, gan agor cyfnod hynod gynhyrchiol lle cyhoeddodd naw albwm mewn degawd, ac wyth arall dros y tri degawd dilynol.
Un o'i albymau mwyaf eiconig, Hen Wlad Fy Nhadau (1978), cynnwys fersiwn unigryw o'r anthem genedlaethol, ochr yn ochr â thraciau fel Ethiopia Newydd, wedi'i ysbrydoli gan rastafarianiaeth, a'r gân garu ddireidus Merch Tŷ Cyngor.
Datblygodd gariad dwfn at reggae yn y 1970au, gan fynychu Glwb Casablanca yn nociau Caerdydd – ac yn ddiweddarach recordiodd ddau albwm reggae llawn. Roedd ei gariad at y genre yn ddiffuant ac yn ddylanwadol, gan agor drysau i sain newydd yn y Gymraeg.
Dylanwadodd Jarman ar fandiau Cymreig fel Gorky's Zygotic Mynci a Ffa Coffi Pawb, ac yn 1997, cyfarwyddodd raglen ddogfen o daith fyd-eang gyntaf y Super Furry Animals – tystiolaeth o'i ddiddordeb parhaus mewn cerddoriaeth gyfoes a'i gefnogaeth i artistiaid newydd.
Ac nid cerddoriaeth yn unig oedd ganddo i'w gynnig – roedd hefyd yn actor dawnus. Ymddangosodd ar y sgrin fel PC Gordon Hughes yn y gyfres gomedi Glas Y Dorlan (1977), ac yn y ddrama Off To Philadelphia in the Morning (1978), ac wrth gwrs, ef oedd y llais gwreiddiol annwyl tu ôl i Superted - rhaglen gyntaf S4C ar ei noson agoriadol.
Mae'r noson Babell Len, a drefnwyd mewn cydweithrediad â theulu Geraint, yn addo bod yn un emosiynol a chofiadwy.
Bydd y cynhyrchydd digwyddiadau cerddorol a phrif weithredwr Sain, Kev Tame a Marged Tudur, sydd wedi astudio gwaith Jarman ar gyfer ei PhD, yn asio ei gerddoriaeth gyda'i farddoniaeth, gan dynnu sylw at y cysylltiadau dwfn rhwng y ddau.
Dwyeddod Marged: "Mae pawb yn ei adnabod fel cerddor, ond roedd hefyd yn fardd dawnus. Mae wedi bod yn brofiad cyffrous darganfod y cysylltiadau rhwng ei ganeuon a'i gerddi."
Bydd y noson yn cynnwys cyfraniadau gan artistiaid amlwg fel Rhys Ifans, Twm Morys, Huw Stephens, Rogue Jones, Aleighcia Scott, Mei Gwynedd a Gareth Bonello gyda Lisa Gwilym yn arwain y noson.