Coron yr Eisteddfod i Owain Rhys

Monday, 4 August 2025 16:41

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Owain Rhys o Llandwrog yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol 2025 ym Wrecsam.

Fe’i chyflwynir am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Adfeilion’.

Y beirniaid eleni yw Gwyneth Lewis, Siôn Aled ac Ifor ap Glyn, sy’n traddodi o’r llwyfan.

Meddai, Mae casgliad Llif 2 yn agor gyda’r cwpled syml ‘Pan fyddi di’n anghofio / bob dydd wrth iti ddeffro’ – ac mae’n trafod byw efo rhywun sy’n dioddef hefo dementia, sef mam y bardd. Mae’n ymdriniaeth dawel a sensitif â’r hyn sydd yn rhaid ei wneud i helpu’r fam barhau i fyw’n urddasol wrth i’w chof hi ddadfeilio. 

“Mae’r casgliad yn cyflwyno darlun tyner o sefyllfa anodd sy’n wynebu cymaint o deuluoedd heddiw, a synhwyrwn ddyfnder teimladau’r bardd tuag at ei fam, a’i chadernid gynt."

"Fe’i cyffelybir hi yn ei thro â thrindod o ferched cryfion o’n gorffennol, Rhiannon, Heledd a Buddug; a rhannwn chwithdod y bardd yn gorfod ei helpu bellach i roi trefn ar ei desg ei hun: ‘Ar yr olwg gyntaf, / twmpath dinod oedd y ddesg, / ond o grafu’r wyneb / daw’n amlwg y bu yma damchwa.’ Mae’r ddesg yn symbol o’i chof. 

“Dyma gasgliad grymus a chyfoethog a gydiodd ynof i ar y darlleniad cyntaf, gyda phob darlleniad wedyn ond yn datgelu haenau pellach i’w gwerthfawrogi."

"Mewn cystadleuaeth gref eleni, gellid bod wedi trafod coroni Hafgan a Traed yn Dŵr, ond casgliad Llif 2 sydd fwyaf cymen a chyson ei safon. Llif 2, felly, sy’n mynd â hi eleni, ac yn llawn haeddu Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Llongyfarchiadau iddo."

Ceir canmoliaeth gan Gwyneth Lewis yn ei beirniadaeth hefyd: "Mae’r testun yno’n gadarn yn y gerdd, heb ei orlabyddio. Mae yma gyffyrddiadau hyfryd, fel y bardd yn sôn am glirio archif teuluol a thaflu papurau teuluol i ‘flwch o amgueddfa’."

"Llais telynegol clir, meddylgar a thyner sy’n rhedeg trwy’r gerdd, ac mae gan Llif 2 y gallu i grynhoi profiad mewn ychydig eiriau."

"Nid yw ysgrifennu’n uniongyrchol na bod mor ddiwastraff-geiriau yn hawdd. Mae’r gerdd yn cau’n fuddugoliaethus gyda’r honiad mai ‘nid cerdd mo hon / ond darnau bach o sêr, / petalau / ar ddalen wen, / rhag ofn’."

"Mae yma ofal emosiynol a geiriol arbennig ac mae’n llawenydd dyfarnu’r Goron i Llif 2. Llongyfarchiadau gwresog iddo fe/hi.” 

Ac fel ei gyd-feirniaid, mae Siôn Aled yntau’n canmol gwaith Llif 2 – er ei fod yn credu fod dau fardd arall hefyd yn deilwng o’r Goron eleni - gan ddweud: “‘Ingol’ yw’r gair sy’n dod i frig y meddwl wrth ddarllen dilyniant Llif 2. Mae’n dechrau’n ymddangosiadol ddiniwed, rhamantus hyd yn oed, yn null penillion gwerin, ond hyd yn oed yma, mae blas o’r ing, a chrybwyll y ‘border bach’ efallai’n adleisio cerdd arall am heneiddio."

"Gwaetha’r modd, nid heneiddio hardd sy’n ein disgwyl drwy weddill y cerddi ond heneiddio creulon dementia."

“…Ystyriaf Hafgan, Llef 2 a Traed yn Dŵr ill tri yn deilwng o’r Goron eleni, ond am gyfanwaith mor gadarn o grefft a deifiol ei ddweud, Llef 2 sydd yn mynd â hi yn fy marn i, ac rwy’n falch ein bod ein tri fel beirniaid yn gytûn ar hynny. Llongyfarchiadau gwresog i Llef 2 a gobeithio’n wir y bydd dygn ddarllen ar y gwaith.” 

Mae Owain Rhys yn wreiddiol o Landwrog, ger Caernarfon, ond wedi bod yn byw yn y brifddinas ers ei fod yn bedair ar ddeg. Mae bellach yn byw yn y Tyllgoed, Caerdydd, gyda’i briod, Lleucu Siencyn, a’i blant, Gruffudd a Dyddgu.

Ar ôl gweithio i Amgueddfa Cymru am dros ugain mlynedd, mae nawr yn gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol a gwerth cymdeithasol.  

Bu’n aelod o dîm Aberhafren, a ddaeth i’r brig ddwywaith ar raglen BBC Radio Cymru, Talwrn y Beirdd. Mae hefyd wedi bod yn fuddugol yng nghystadlaethau’r englyn a’r englynion milwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Mae ganddo radd mewn archaeoleg, ac MA mewn Astudiaethau Amgueddfaol. Mae wrth ei fodd yn teithio Cymru a’r byd i weld cestyll, adfeilion, a beddrodau. 

Mae’n ffan o dîm pêl-droed Wrecsam ers y 1970au, ac wedi profi sawl siom (ac ambell orfoledd!) wrth eu cefnogi dros y blynyddoedd. 

Mae’n aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Nant Caerau er 2010, ac yn cael pleser llwyr o weld disgyblion ardal Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd yn llwyddo, wedi eu meithrin yn awyrgylch cynhwysol a chefnogol yr ysgol.

Mae’n gadeirydd cangen Caerdydd o fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), ac yn ymddiriedolwr ar eu Bwrdd Cenedlaethol. 

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Sport with Ryan McKean

    2:00pm - 5:00pm

    Ryan McKean keeps you up to date with all the latest football scores across North Wales

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'