Cynllun i greu cenhedlaeth nesaf Eisteddfodau

Tuesday, 26 May 2026 12:55

By Ystafell Newyddion MônFM

Urdd Gobaith Cymru

Mae cynllun newydd yn cael ei lansio i helpu i fentora darpar arweinyddion, beirniaid a hyfforddwyr yr Eisteddfodau.

Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru (Cymdeithas Eisteddfodau Cymru) yn cydweithio â threfnwyr Eisteddfod yr Urdd i gynnig cwrs i cystadleuwyr buddugol yn y grŵp 19-25 oed.

Bydd Anni Llŷn, Huw Foulkes a Gavin Ashcroft yn darparu’r hyfforddiant mewn digwyddiad arbennig yn Aberystwyth yn yr hydref, gan gynnwys sut i redeg llwyfan yr Eisteddfod yn llyfn, beth i edrych amdano fel beirniad ac arfer da er mwyn hyfforddi cystadleuwyr.

Bydd y criw ifanc yn bwrw eu prentisiaeth mewn eisteddfodau lleol o amgylch Cymru, cyn symud ymlaen i gysgodi arweinydd, beirniaid neu hyfforddwr profiadol yn eisteddfodau cylch yr Urdd.

Dyweddod Sian Evans o Gymdeithas Eisteddfodau Cymru: "Gwelwn y cynllun hwn fel cam pwysig i roi cyfle i'r genhedlaeth nesaf fod yn rhan o'n traddodiad Eisteddfodol."

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r bobl ifanc i'r gweithdy a'n heisteddfodau lleol a rhoi blas iddynt o'r gwahanol agweddau o'r traddodiad Eisteddfodol."

"Gobeithiwn y bydd y bobl ifanc yn mwynhau'r profiadau ac yn cael eu hysbrydoli i gefnogi datblygiad ein traddodiadau a'n eisteddfodau."

Bydd modd i unigolion eraill wneud cais am y pump lle rhydd sydd ar y cwrs trwy ffurflen gais ar wefan yr Urdd yn fuan wedi’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mona.

Ychwanegodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydol yr Urdd: "Rydym yn falch iawn o fod yn lansio'r cynllun mentora newydd yma fydd, gobeithio, yn annog to newydd o bobl ifanc i gefnogi eisteddfota yng Nghymru."

"Mae 'na gymaint o dalent i weld ar lwyfannau ein heisteddfodau - talent sydd wedi ei feithrin gan hyfforddwyr gweithgar ar lawr gwlad, wedi ei fireinio gan feirniadaethau teg, oll dan ofal cadarn ein harweinwyr. Dyma gyfle’r genhedlaeth nesa i gadw ein traddodiad gwerthfawr yn fyw."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    7:00pm - 9:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'