'Cynnig ar gyfieithu' yn Eisteddfod yr Urdd

Tuesday, 26 May 2026 11:01

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd yn cael eu hannog i roi cynnig ar gyfieithu mewn sesiwn arbennig yn stondin Cyngor Môn.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i ddefnyddio clustffonau realiti rhithwir (VR) mewn ymdrech i'w hannog i roi cyfieithu ar y pryd a dysgu mwy am gyfieithu fel gyrfa.

Mae'r sesiwn, sy'n dechrau am 2pm ddydd Mawrth, yn cael ei chynnal ochr yn ochr â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Dwyeddod Arwel Wynn Owen, rheolwr gwasanaeth cyfieithu y cyngor: "Mae'r sesiwn hon yn gyfle i blant a phobl ifanc gael hwyl wrth geisio cyfieithu ar y pryd, holi mwy am yrfaoedd yn y maes cyfieithu a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y Gymraeg."

Bydd y brifysgol yn dod â phen setiau VR i Stondin Cyngor Sir Ynys Môn (lleoliad N4 ar y maes) pnawn dydd Mawrth yr Eisteddfod am 2 o'r gloch, er mwyn ceisio rhoi blas o'r profiad o fod mewn ystafell drochi.

Meddai Teleri Haf, prif swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: "Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn falch iawn o gydweithio â Chyngor Môn a Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i drefnu'r digwyddiad arbennig hwn. Mae'r gymdeithas yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni, ac rydym yn awyddus i fuddsoddi yn nyfodol y grefft drwy gyflwyno cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i bobl ifanc."

Ychwanegodd Manon Cadwaladr, cadeirydd y cymdeithas: "Yn aml, mae cyfieithu'n cael ei weld fel gwaith unig, diflas ac anweledig, ond mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i herio'r syniad hwnnw a dangos pa mor fywiog, egnïol a chymdeithasol y gall y proffesiwn fod."

Meddai Lynwen Davies o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Mae'n braf medru cydweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar faes yr Eisteddfod eleni er mwyn tynnu sylw at y grefft o gyfieithu ar y pryd."

"Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig tystysgrif ôl-radd mewn cyfieithu ar y pryd, ac mae'n rhaglen unigryw yn yr ystyr mai dyma'r unig gymhwyster ôl-radd o'i fath yng Nghymru."

"Mae'r dystysgrif yn un sy'n derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru a hefyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    7:00pm - 9:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'