Mae Daf Owain wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol Garreg Las.
'Ymarfer Byw' yw ail albwm y cerddor o ardal Caernarfon, a ryddhawyd ym mis Hydref y llynedd.
Cyhoeddwyd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn rhyw wythnos yn ôl, ac mae'r panel o feirniaid wedi bod yn brysur iawn yn gwrando ar y cyfoeth o albymau sydd wedi eu rhyddhau dros y flwyddyn diwethaf, ac wedi trafod a thrafod er mwyn dod i ganlyniad.
Bwriad y wobr, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae'r wobr yn dathlu'r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn.
Bu panel o feirniaid sy'n rhan o'r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff cynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.
Y beirniaid eleni oedd Lewys Meredydd, Eluned Haf, Alun Cob, Molly Palmer, Huw Bebb a Cadi Glwys.
Daeth 10 o artistiaid a bandiau i'r rhestr fer eleni, gan gynnwys Ani Glass, Buddug, Casi, Ciwb, Eve Goodman a SERA, Ffenest, Griff Lynch, Lafant, Mari Mathias a Sonant.


Gareth Evans-Jones yn ennill Medal Ryddiaith
Y Prif Weinidog yn yr Eisteddfod