Dafydd yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc

Monday, 25 May 2026 15:15

By Ystafell Newyddion MônFM

Urdd Gobaith Cymru

Mae ffotograffydd o Lanbedrog wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc gwerth £2,000 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Dechreuodd Dafydd Llŷr Hughes dynnu lluniau o Ben Llŷn yn ystod y cyfnod clo ac mae'n paratoi i ddechrau gradd ym Mhrifysgol Falmouth yng Nghernyw ym mis Medi.

Yn ôl y beirniaid, mae ei bortffolio buddugol yn "deyrnged i'w ardal leol" gyda "delweddau hudolus".

Mae Dafydd yn 19 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Llanbedrog ac Ysgol Botwnnog. Mae newydd gwblhau cwrs ecoleg a chadwraeth yng Ngholeg Reasheath, Nantwich, Swydd Gaer, ar ôl treulio blwyddyn yn Ngholeg Glynllifon ger Caernarfon yn astudio coedwigaeth a chadwraeth.

Dwyeddod Dafydd: "Dechreuais dynnu lluniau yn ystod y cyfnod clo gan gychwyn gyda chamera ffôn cyn symud ymlaen i ddefnyddio camera."

"I ddechrau roeddwn i'n tynnu lluniau o'r golygfeydd anhygoel sydd gennym yn Llŷn – traethau Llanbedrog, Porth Neigwl a'r anifeiliaid gwyllt sy'n byw yno."

"Rwyf wrth fy modd allan yn yr awyr agored ac mae fy niddordebau eraill fel pysgota a syrffio yn adlewyrchu hynny. Rwyf yn edrych ymlaen at gychwyn ar fy astudiaethau ym mis Medi."

"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Urdd am y cyfle drwy'r ysgoloriaeth i allu gwireddu fy nod o ysbrydoli pobl drwy fy ffotograffiaeth i fwynhau a pharchu byd natur."

Beirniad y gystadleuaeth yw Diana Williams, cyn ddarlithydd o'r Adran Gelf ym Mhrifysgol Bangor a Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr yn Oriel Môn yn Llangefni.

Dywedodd y beirniaid: "I'r brig daeth ymgeisydd wnaeth ein swyno, nid yn unig efo'i bortffolio ond ei angerdd heintus a'i gariad pur tuag at ei waith."

"Mae'n talu teyrnged i'w fro ac yn cyflwyno delweddau hudolus. Dyma gadwraethwr brwd gydag angerdd am bioamrywiaeth a gwarchod ei gynefin. Roedd stori tu ôl i pob darn ac roedd sensitifrwydd y gwaith a'r oriau maith i gipio un ddelwedd yn syfrdanol."

"Mae gan Dafydd lwybr pwrpasol ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae'n feistr parod ar ei grefft sydd am fynd o nerth i nerth ac esblygu. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei yrfa a'i ddatblygiad artistig."

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Dyfed Childs o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth a Moli Prendergast o Holeg Menai, Bangor oedd yn drydydd.

Cyflwynir y tlws er cof am Owen a Manon Griffiths a rhoddir yr ysgoloriaeth, drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a'i deulu i alluogi'r enillydd i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu yn fuddsoddiad er mwyn i'r artist buddugol ddilyn gyrfa yn y maes hwnnw.

Lleucu-Haf Thomas o Grymych, Sir Benfro, sydd wedi ennill y fedal Celf, Dylunio a Thechnoleg.

Mae'r ferch 17 oed, sy'n cadeirio ei changen Aelwyd leol, ar hyn o bryd yn ei blwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth yn Ysgol Bro Preseli, lle mae hi'n astudio cerddoriaeth, drama a Chymraeg.

Dyweddod Lleucu-Haf: "Yn ferch o gefn gwlad mae'n meddwl y byd i mi gael rhannu'r grefft o drin a phlethu llafur a dangos y broses o gasglu'r cynnyrch o'r cae, i'w dorri a'i sychu, ac yna mynd ati i greu. Mae'r broses o greu a phlethu efo llafur yn rhywbeth personol iawn i fi."

"Rwyf yn meddwl am syniad ac yn mynd ati i gynllunio, ei ddatblygu a'i greu dros oriau di-ri. Teimlaf ei bod hi'n hanfodol bwysig i gadw'r traddodiadau hen yn fyw a hoffem ddiolch i Aeres James o Sir Benfro am gyflwyno'r sgil anghyffredin i mi nôl yn 2020 ac am yr holl anogaeth ac ysbrydoliaeth."

Ystyriwyd gwaith Lleucu-Haf, cerflun trawiadol o'r delyn, fel yr gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch yr adran gelf, dylunio a thechnoleg yn y grŵp Blwyddyn 10 i 19 oed.

Beirniaid y Fedal eleni yw Carys Jones, Christine Mills, Siwan Thomas, Owain Sparnon, Ellen Thorpe, Arwyn Roberts a Diana Williams.

Dywedodd y beirniaid: "Roedd y gwaith yn drawiadol, medrus a chaboledig. Dyma waith crefftus, gwreiddiol a chyfoes. Mae'r enillydd yn feistr ar ei chrefft a braf yw gweld hen grefftau traddodiadol fel hyn yn dod i'r brig."

Rhoddir y Fedal er cof am Andrew Southall.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Urdd 2026 ar MônFM

    4:00pm - 7:00pm

    Ymunwch â Rheinallt a’r criw am hynt a helynt Eisteddfod yr Urdd ym Mona.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'