Eisteddfod 2025 - y gair olaf

Saturday, 9 August 2025 17:57

By Eryl Crump

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn dod i ben nos Sadwrn wedi rhoi llwyfan enfawr i'r iaith Gymraeg yn yr ardal a hwb sylweddol i'r economi lleol.

Gwnaethpwyd y datganiad gan swyddogion yr wyl ar ddiwedd wythnos brysur o gystadlu yn y Pafiliwn a nifer o gyngherddau, sgyrsiau a digwyddiadau eraill ar Faes yr Eisteddfod yn Is-y-Coed ar gyrion dwyreiniol y ddinas.

Dywedodd Llinos Roberts, cadeirydd y pwyllgor gweithredol lleol, fod miloedd o bobl wedi heidio i'r Maes drwy'r wythnos, gyda llawer ohonynt yn ymweld â'r Eisteddfod am y tro cyntaf, a llawer wedi dychwelyd am ymweliadau pellach.

"Mae hynny mor gadarnhaol ac yn helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050," meddai.

Dywedodd swyddogion yr Eisteddfod fod y tywydd sych yr wythnos hon wedi helpu i ddenu'r torfeydd mawr.

"Wrth gwrs, mae llawer yn dweud na fyddai'n Eisteddfod heb law, ac fe gawson ychydig yn ystod yr wythnos, ond mae'r Maes yn draenio'n gyflym ac nid oedd hynny'n broblem," meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.

Ychwanegodd fod Eisteddfod 2025 wedi bod yn llwyddiant mawr gyda'r holl wobrau pwysig wedi'u dyfarnu.

"Roedd seremoni Cadair yn emosiynol iawn oherwydd salwch Tudur Hallam, ond roedd pawb yn falch o safon uchel y ceisiadau ar draws yr holl gystadlaethau, ac mae hynny'n galonogol iawn."

"Roedd y rhaglen yn Tŷ Gwerin, Encore ac Y Babell Len yn wych, ac roedd Eisteddfodwyr yn amlwg yn cytuno gan fod ciwiau mawr i fynd i mewn ar sawl achlysur. Roedd hyn yn rhoi cyfle i bobl gwrdd â'r rhai oedd â diddordeb yn yr un grŵp, drama neu bwnc," meddai.

Er bod y Maes wedi'i leoli ychydig filltiroedd y tu allan i ganol y ddinas, mae busnesau yng nghanol Wrecsam yn dweud eu bod wedi teimlo effaith yr ŵyl.

Yn ôl un perchennog busnes, mae'r effaith wedi bod mor gadarnhaol eu bod yn awyddus i weld yr Eisteddfod yn dychwelyd cyn gynted â phosib.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Llantwyd, pentref rhwng Aberteifi a Trefdraeth yn Sir Benfro yn 2026.

Wrth longyfarch criw Eisteddfod Wrecsam am "wythnos wych" dywedodd John Davies, cadeirydd pwyllgor gweithredol Eisteddfod Genedlaethol 2026, y byddai'r ddinas yn "anodd ei dilyn".

Ychwanegodd y bydd Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf, a elwir yn Eisteddfod y Garreg Las, yn "unigryw".

"Dan arweiniad Cyngor Sir Benfro, mae ardal yr Eisteddfod yn cynnwys rhan o Sir Gaerfyrddin a rhan fach o Geredigion. Mae cynnal yr Eisteddfod eleni yn coffáu'r ffaith mai 850 mlynedd yn ôl, yn 1176, y cynhaliodd y Tywysog Rhys yr Eisteddfod gyntaf."

"Mae cryn dipyn o waith gyda ni i gynnal y llwyddiant celfyddydol, diwylliannol a chymdeithasol tebyg i Wrecsam," ychwanegodd.

Awgrymodd Mr Davies hefyd fod angen "edrych yn wahanol ar sut mae'r nawdd yn cael ei greu a'i gynaeafu" yn yr ardaloedd sy'n croesawu'r brifwyl.

"Mewn hinsawdd lle mae arian yn anodd dod o hyd iddo i bob teulu, rhaid inni fod yn ofalus ac yn ddoeth," meddai.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Kev Bach

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Mae Kev Bach yn nôl i ddeffro Ynys Môn a Gwynedd!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'