Elin Undeg yn ennill Coron yr Urdd

Friday, 29 May 2026 15:10

By Ystafell Newyddion MônFM

Urdd Gobaith Cymru

Mai Elin Undeg Williams o Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych sydd wedi'i choroni fel Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd 2026.

Mae Elin yn 19 mlwydd oed, a hi oedd Prif Ddramodydd yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro y llynedd.

Elin yw'r cyntaf i fod wedi ennill y Fedal Ddrama a'r Goron ers Llŷr Titus (Coron 2011 a Medal 2012), sy'n un o'r beirniaid ddydd Gwener.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Lowri Bebb o Gaernarfon, a Ffion Eleri Thomas o Fangor oedd yn drydydd.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema 'Lloches'.

Daeth 14 ymgais i law, gyda'r beirniad Llŷr Titus a Sonia Edwards "yn gweld pob un hefo rhywbeth gwerth ei ganmol ynddynt."

Meddai'r beirniaid am y gwaith buddugol: "Myfyrdodau neuadd bentref sydd yma a'r neuadd honno yn edrych ar ddigwyddiadau'r gymuned o'i chwmpas a'r hyn sydd yn mynd ymlaen ynddi. Dyma enghraifft glyfar o 'waliau'n siarad'. Mae yma ddychan, beirniadu, anwylo, craffu gwirioneddol a darlun byw, a gwreiddiol o gymuned amaethyddol."

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Betws Gwerful Goch ac Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, mae Elin yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio'r Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae hi'n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, ac Aelwyd Pantycelyn ac wedi mwynhau canu gyda nhw ddechrau'r wythnos.

Mae Elin yn diolch i'w chyn-athrawon am eu cefnogaeth amhrisiadwy ac yn benodol i Dr Eurig Salisbury o Adran Y Gymraeg Aberystwyth am ei anogaeth, ac i'w theulu am bopeth.

Y gemydd Myfanwy Jones yn wreiddiol o Lanfairpwll oedd gwneuthurwraig y Goron eleni, diolch i nawdd cwmni Eiddo Cyf.

Mae'r goron eleni wedi ei gwneud o bres, ac mae arni ddwy garreg opal a darnau bach o garreg jâd, gyda defnydd melfed gwyrdd ar y tu mewn; y cyfan yn adleisio lliwiau traethau'r ynys.

Meddai Myfanwy: "Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i ddylunio Coron Eisteddfod yr Urdd – dwi erioed wedi dylunio coron o'r blaen.”

”Cyn dechrau dylunio nes i roi poll ar Instagram i holi beth oedd yn dod i feddyliau pobl wrth iddyn nhw feddwl am Ynys Môn, a'r ateb mwyaf poblogaidd oedd y traethau.”

”Wedyn fe fues i'n gwneud ymchwil i draethau a symbolau Celtaidd yr ynys, felly mae'r rhain i gyd yn themâu cryf yn nyluniad y goron."

Mae buddugoliaeth Elin heddiw yn golygu bod merched wedi ennill y tair prif wobr llenyddol am y dair blynedd diwethaf.

Mae'r cyntaf, ail a thrydydd yn y prif gystadlaethau llenyddol yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru er cof am Olwen Dafydd. 

Bydd gwaith Elin yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfryn gan Gyhoeddiadau'r Stamp yn syth ar ôl y seremoni. Gellir prynu copi o'r tri darn llenyddol buddugol o Siop yr Urdd neu siop lyfrau Awen Menai ar y maes, neu mewn siopau llyfrau lleol.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    2:00pm - 4:00pm

    Two hours of great music with Yvonne on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'