Enw Maldwyn Meirionnydd ar gyfer Eisteddfod 2027

Tuesday, 21 April 2026 14:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd fydd yr enw swyddogol y Brifwyl yn 2027.

Mae trefnwyr yr ŵyl wedi dewis enw yn dilyn cystadleuaeth, a derbyniwyd dros 250 o geisiadau.

Bydd De Meirionydd yn rhan o ardal y Brifwyl, gyda'r lleoliad wedi ei gadarnhau ar gyfer gogledd Powys.

Mae'r enw buddugol wedi'i ddewis o restr fer derfynol gan y Pwyllgor Gwaith, sy'n dweud ei fod "yn syml ac yn disgrifio rhan helaeth o’r dalgylch".

Dyweddod Heulwen Davies, is-gadeirydd Strategol y Pwyllor Gwaith: "Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd y flwyddyn nesaf!"

"’Doedd dewis enw ar gyfer yr ŵyl ddim yn hawdd, ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb am eu holl awgrymiadau. Roedd ‘na rai enwau hynod o greadigol, ond doedden nhw ddim yn gweithio fel enw i’r ŵyl, ac eraill yn hyfryd ond yn rhy blwyfol, a ddim yn adlewyrchu’r dalgylch."

"Felly, ar ôl cryn drafod, cytunwyd ar Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd, yn y gobaith y bydd pawb yn gwybod yn syth ble mae’r Eisteddfod am gael ei chynnal y flwyddyn nesaf! Diolch i bawb am ymgeisio, a llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr."

Cafodd yr enw buddugol ei gynnig gan ddau berson, Arwel Jones a Nest Evans, a bydd y ddau’n ennill tocyn wythnos i Faes Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Cynhelir Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod 2027 yn Llanidloes ddydd Sadwrn 9 Mai.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd yn Sir Benfro eleni, gan gynnwys perfformiadau blaenllaw gan Super Furry Animals, Y Bandana ac Elis James.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Brecwast MônFM gyda Dai Sinclair

    7:00am - 10:00am

    Bore da! Cychwynnwch eich diwrnod gyda Dai Sinclair ar MônFM. Cerddoriaeth, newyddion lleol, y diweddaraf i deithwyr, a llawer mwy!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'