
Clywyd cymeradwyaeth uchel ar Faes yr Eisteddfod pan sgoriodd Wrecsam y gol gyntaf yng ngêm agoriadol o'r tymor Pencampwriaeth newydd.
Roedd cefnogwyr brwd y clwb yn gallu mwynhau'r Eisteddfod a gwylio'r gêm ar sgrîn fawr ar ôl i drefniadau gael eu gwneud i ddangos y gêm yn fyw.
A chawsant sylwebaeth arbennig iawn gyda'r trac Saesneg gan Sky Sports wedi'i ostwng a Nic Parry a'r cyn-ymosodwr rhyngwladol Malcolm Allen yn cymryd ei le.
Sylwebwyr profiadol iawn gyda hiwmor parod a ffordd arbennig o fynegi eu hunain, roedd Nic a Malcolm mor frwdfrydig â'r un cefnogwr Wrecsam.
Cyrhaeddodd y cyffro ei uchafbwynt ar ôl dim ond 20 munud pan gafodd Kieffer Moore ei daclo yn y bocs cosb a rhoddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn i Wrecsam.
Gyda Josh Windass yn llwyddo i'w tharo, roedd y cymeradwyaeth mor uchel â chor Eisteddfod buddugol.
Ar yr egwyl, ni allai uwch stiward yr Eisteddfod a chefnogwr brwd Wrecsam, Cledwyn Ashford, guddio ei lawenydd.
"Mae'n ddechrau da ac mae'r awyrgylch yn wych yma yn yr haul. Gobeithio y gall yr hogia barhau fel hyn yn yr ail hanner," meddai.
Roedd sibrydion yn frith yn ystod yr Eisteddfod y byddai perchnogion y clwb, yr actorion Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn ymweld â'r Maes o leiaf unwaith.
Ond dywedodd Maxine Hughes, a chwaraeodd ran allweddol yn y gyfres ddogfen, Welcome to Wrexham, y penwythnos diwethaf fod y ddau yn canolbwyntio'n llwyr ar y tymor pêl-droed ac yn annhebygol o gael amser i ymweld.
Yn ystod yr ail hanner, cafodd Wrecsam gyfleoedd i ymestyn eu mantais a chafwyd apeliadau uchel am gic o'r smotyn arall, ond fe'u gwrthodwyd gan y dyfarnwr.
Roedd cefnogwyr pryderus yn ofni y gallai Southampton gipio gôl gyfartal – ac felly y bu, gyda Ryan Manning yn sgorio o gic rydd wych.
Roedd amser o hyd i sgorio eto ac yn ystod amser ychwanegol sgoriodd Jack Stephens i Southampton i wneud y sgor terfynol yn 2-1 i'r tim cartref.
Aeth cefnogwyr siomedig Wrecsam yn ol i'r pafiliwn ar gyfer cystadleuthau'r corau neu aros wrth Llwyfan y Maes i fwynhau y gorau o gerddoriaeth Cymraeg.