Glain Llwyd yw Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mona.
Mae Glain yn 21 mlwydd oed ac yn byw yng Nghaerdydd ers iddi raddio o gwrs BA Perfformio, Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn rhan bwysig o'i bywyd ers iddi gystadlu am y tro cyntaf pan yn chwe mlwydd oed.
Mae Glain yn aelod o Gwmni Theatr yr Urdd ac ym mis Awst bydd yn chwarae un o'r prif rannau yn y sioe gerdd 'Calon' yng Nghanolfan y Mileniwm.
Dywedodd Glain: "Dwi wedi perfformio ar lwyfannau ers yn ifanc, fel aelod o Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, clybiau Drama Arad Goch ac ar lwyfannau Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol fel aelod o'r grŵp Diffiniad.”
"Hoffwn ddiolch i Mam a Dad am fy annog i gystadlu ac i ysgrifennu, i Miri fy chwaer am roi ei barn onest ar y sgript cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth, ac i Jarvis Cocker o Pulp am ysbrydoli fy ffug enw!"
Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addasi gael ei llwyfannu mewn gofod theatrig ar gyfer 1, 2 neu 3 perfformiwr (nid o reidrwydd cymeriadau), rhwng 15-30 munud o hyd.
Yn ôl y beirniaid, Gareth Evans-Jones a Mared Llywelyn, daeth 15 ymgais i law 'mewn chwip o gystadleuaeth' gyda phob sgript yn 'ddiddorol ac yn arbennig' a'r beirniaid wedi mwynhau darllen pob un.
Meddai'r beirniaid: "Dyma ddramodydd hynod gyfforddus ac aeddfed, mae'r syniad yn syml ond yma ceir datguddiadau graddol, deialog chwareus a llachar.”
”Dyma ddrama sy'n chwarae gyda'r dwys a'r difri'n effeithiol ac yn gadael teimlad cynnes, llawn gobaith ar ei ôl, heb fod yn or-sentimental."
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Siriol Haf Ousey o Rhyl, a Lleucu Angharad Hughes o Lanuwchllyn oedd yn drydydd.
Derbyniodd Glain fedal arbennig wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron.
Rhoddir y Fedal er cof am Audrey Mechell, yr actores a'r cynhyrchydd, gan ei merched Linda a Sandra, a'r wyrion Elin, Gwen, Glesni a Cai.
Bydd gwaith Glain yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfryn gan Gyhoeddiadau'r Stamp yn syth ar ôl y seremoni.
Chloe Swinburn, enillydd yr Ysgoloriaeth Gelf yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, sydd wedi creu'r gwaith celf ar gyfer llyfrynnau'r prif enillwyr. Gellir prynu copi ar y maes – gan yr Urdd neu siop lyfrau Awen Menai – neu mewn siopau llyfrau lleol.
Bydd gwaith y Prifardd yn cael ei gyhoeddi fory a gwaith y Prif Lenor dydd Gwener gan Gyhoeddiadau'r Stamp (os bydd teilyngdod).
Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y gystadleuaeth yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd diolch i nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.
Yn ogystal â chael blwyddyn o fentoriaeth a chyfleoedd datblygu gyda Theatr Cymru, fel Dramodydd Preswyl Ifanc ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda'r BBC.


Extra measures after more Menai Bridge closures
Osian Roberts is Wednesday’s President
Osian Roberts yw Llywydd Dydd Mercher
Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol
Heledd yn ennill Medal y Cyfansoddwr