Gorsedd: Gwisg Werdd i Malachy

Thursday, 7 May 2026 10:34

By Ystafell Newyddion MônFM

Bydd llenor ac awdur o Lanfairpwll yn cael ei derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Garreg Las 2026.

Cyhoeddodd Malachy Edwards ei gyfrol gyntaf, Y Delyn Aur, yn 2023, gyda Gwasg y Bwytyn, gan gyrraedd rhestr fer gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2024.

Mae’n ysgrifennu colofn wythnosol yn Golwg, a chyhoeddwyd ei ail gyfrol, Paradwys Goll, y llynedd. Mae hefyd yn is-gadeirydd cwmni PYST ac yn gweithio fel swyddog undeb llafur..

Mae’r ddwy gyfrol yn gofiannau personol sy’n archwilio hunaniaeth Cymro Du aml-hil ac amlddiwylliannol.

Dwyeddod llefarydd ar ran Gorsedd Cymru: "Fel un o brif leisiau’r gymuned Gymraeg Ddu, mae’n dylanwadu’n sylweddol ar newid canfyddiadau o’r Cymry Cymraeg ac yn ysbrydoliaeth i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o bob cefndir."

Bydd Malachy yn cael ei urddo â'r wisg werdd yn ystod y seremoni flynyddol yn y Maes yn Llantwd, Sir Benfro, ym mis Awst.

Mae’r anrhydeddau yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.

Mae enwau mwy cyfarwydd ar y rhestr yn cynnwys y pêl-droedwyr Joe Allen ac Angharad James, y gantores Aleighcia Scott, y darlledwyr Heledd Cynwal a Mari Grug, y cerddor Ryland Teifi a'r actores Gillian Elisa.

Mae’r rheini sy’n amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las - am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd, sy'n cael ei chynnal yn Ynys Môn eleni.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'