Heledd yn ennill Medal y Cyfansoddwr

Tuesday, 26 May 2026 14:46

By Ystafell Newyddion MônFM

Urdd Gobaith Cymru

Heledd Wynn Newton yw prif gyfansoddwraig Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Ynys Môn.

Roedd y myfyriwr 21 oed o Gaerdydd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Medal y Cyfansoddwr, a rhoddir Gwobr Gwynne Jones o Gronfa Ymddiriedolaeth Pendyrus werth £400.

Mae Heledd, sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Pwll Coch ac Ysgol Gyfun Glantaf, yn astudio ar gyfer gradd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

O dan arweiniad ei hathrawes delyn, Catrin Finch, mae Heledd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio gradd meistr yn yr Academi Gerdd Frenhinol ym mis Medi ar y delyn, lle mae hi'n bwriadu parhau gyda'i chyfansoddi hefyd.

Y cais buddugol yw cylch o ganeuon corawl SATB pedwar symudiad, wedi'i seilio ar awdl o'r Gododdin gan Aneirin.

Meddai Heledd: "Dechreuais gyfansoddi yn saith oed."

"Fel aelod o Gôr Heol y March o dan arweiniad Eleri Roberts, a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o dan arweiniad Tim Rhys Evans dwi wedi cael fy nghyflwyno i weithiau corawl amrywiol iawn eu harddull, sydd wedi cael dylanwad ar fy ngwaith chyfansoddi."

"Dwi'n aelod brwd o'r gymuned gyfansoddi arbrofol yn Rhydychen ac yn ddiweddar ges i'r cyfle i fod yn rhan o weithdy cyfansoddi gyda Chantorion y BBC."

GWRANDO: Darn buddugol Heledd Wynn Newton am Fedal y Cyfansoddwr

Mae Heledd wedi cyrraedd y tri uchaf yn Y Fedal Gyfansoddi ddwywaith o'r blaen, yn 2020 - yr Eisteddfod T gyntaf - a llynedd yn Eisteddfod Dur a Môr, Parc Margam ger Port Talbot.

Daeth 10 ymgais i law, gyda'r beirniaid Gareth Glyn ac Owain Llwyd yn nodi fod yr "amrywiaeth o ran arddull, offeryniaeth a genre yn adlewyrchu dyfnder y dalent gyfansoddi ifanc sydd ar waith yng Nghymru heddiw."

Dywedodd y beirniaid am y cofnod buddugol: "Mae'r cyfansoddwr wedi ymdrwytho yn yr Hengerdd ac yn ymateb iddi gydag ieithwedd gerddorol sy'n gwbl gyfoes gan gynnwys tonyddiaeth estynedig, defnydd o glissandi a sibrwd, a rhannu'r côr i gymaint ag wyth rhan annibynnol."

"Dyma lais proffesiynol, cyfoes a phwysig ar gyfer dyfodol cerddoriaeth Gymraeg."

Yr ail yn y gystadleuaeth oedd Iestyn Seiriol o Landdaniel, sy'n mynychu Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, a Rhydian Llŷr Williams o Lanrug oedd yn drydydd.

 

Rhoddir y Fedal eleni gan Rheinallt a Rowenna Thomas o Gaerdydd (Llanfairpwll a Phorthaethwy gynt).

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • 50 Mawr MônFM

    7:00pm - 11:00pm

    Cyfle arall i glywed y siart fawr - 50 o'ch hoff ganeuon Cymraeg chi!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'