Mae cynllun llysgenhadon newydd wedi cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd i annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg.
Yn ôl y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, mae mwy o bobl nag erioed yn dilyn ei chyrsiau - dros 20,000 yn 2024-25.
Mae pedwar llysgennad wedi cael eu penodi, gan gynnwys y gantores Aleighcia Scott, yr anturiaethwraig Toni James, y DJ Katie Owen a phennaeth cysylltiadau cyhoeddus CBDC, Ian Gwyn Hughes.
Bydd y pedwar yn cynrychioli’r ganolfan, gan rannu eu profiadau personol o’r Gymraeg, a thynnu sylw at waith y sector dysgu Cymraeg. Byddant hefyd yn cefnogi ymgyrchoedd recriwtio, gan annog pobl o bob cefndir i ddechrau dysgu Cymraeg, neu i barhau â’u taith iaith.
Dywedodd Aleighcia, a berfformiodd yng Ngŵyl Triban nos Sadwrn: "Dw i’n falch iawn i fod yn rhan o’r cynllun yma. Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn daith bersonol bwysig i fi, ac wedi agor drysau newydd – yn greadigol ac yn gymdeithasol."
Mae’r cynllun yn rhan o weledigaeth y ganolfan i ddenu a chefnogi cynulleidfaoedd eang i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys gweithluoedd, cymunedau, sectorau allweddol fel iechyd a gofal, y gweithlu addysg a chwaraeon, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae hefyd yn cydweithio â’r Urdd i gynnig cyfleoedd amrywiol i staff y mudiad, a’r bobl ifanc sy’n defnyddio ei gwasanaethau, i gryfhau eu sgiliau neu ddysgu’r iaith o’r newydd.
Meddai Dona Lewis, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Creu siaradwyr Cymraeg newydd yw prif nod y Ganolfan, a’u cefnogi i fwynhau defnyddio’r iaith yn hyderus yn eu bywydau pob dydd."
"Dw i’n falch o ddweud bod y sector Dysgu Cymraeg yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn cwblhau ein cyrsiau."
"Dyn ni’n gyffrous iawn bod criw brwd o lysgenhadon yn ymuno â ni, i rannu eu profiadau o’r Gymraeg ac i hyrwyddo a dathlu ein gwaith. ’Dyn ni’n falch o gyhoeddi’r cynllun newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd, un o’n partneriaid."
"Mae’r Ganolfan yn gweithio’n greadigol ac mewn partneriaeth â gwahanol sectorau, gan ddarparu un llwybr dysgu clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg. ’Dyn ni i gyd yma i groesawu a chefnogi’n dysgwyr a siaradwyr newydd, ar hyd pob cam o’u taith iaith."
Ychwanegodd Toni James, y Gymraes gyntaf i ddringo Mynydd Everest: "Mae dysgu sgil newydd ychydig fel dringo mynydd – mae’n gallu bod yn sialens, ond mae pob cam bach yn llwyddiant!"
"Dw i’n falch iawn o’r cyfle i gefnogi pobl i gymryd y cam cyntaf i ddysgu Cymraeg, ac i ddal ati – mae’r daith yn un werth chweil."


Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol
Urdd Eisteddfod 2026: local results
Cyhoeddi Llywyddion Anrhydeddus Urdd 2026
Seven Honorary Presidents for Urdd 2026
Tudur Owen yw llywydd dydd Sul