Lucy yw Dysgwr y Flwyddyn

Thursday, 7 August 2025 06:50

By Ystafell Newyddion MônFM

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae Lucy Cowley, athrawes ysgol sy'n byw Llangollen wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eglwys Genedlaethol yn Wrecsam.

Fe'i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel. 

Y tri arall a ddaeth i'r brig oedd Rachel Bedwin sy'n byw yn ardal Bangor, Hammad Hassan Rind sy'n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy'n byw ym Mhrestatyn.

Daw Lucy Cowley o Is-y-Coed, Wrecsam, sef cartref yr Eisteddfod eleni. Roedd ei thaid yn ffoadur o Wlad Pwyl a'i nain yn ffoadur o'r Wcrain.

Er ei bod hi wedi cael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, 'doedd hi ddim yn hyderus, ond wrth weithio fel athrawes yn Ysgol Holt, sylweddolodd ei bod wrth ei bodd yn rhannu'r Gymraeg gyda'r plant.

Aeth ati i ati ddilyn cyrsiau, a dechrau defnyddio adnoddau Cymraeg yn y dosbarth.

Mae hi'n byw yn Llangollen ac wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn y dref, sy'n denu criw o bobl o gefndiroedd amrywiol, rhai yn ddysgwyr newydd ac eraill yno i ail afael yn eu Cymraeg. Mae'n cynllunio gemwaith a daeth â stondin i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2023.

Dywedodd Lucy ar ol y seremoni ei bod dal mewn sioc: "Dwi'n falch iawn. Wnes i erioed feddwl faswn yn ennill ac i wneud hynny yn Is-y-Coed mae'n wych. Rwyn emosiynol iawn does dim gair i ddisgrifio sut dwi'n teimlo."

"Mae ennill hwn yn golygu'r byd i mi. Rwyn byw yn lleol ac yn gweithio'n lleol ond doeddwn ddim yn teimlo fy mod yn ffitio fewn."

"Dwin siared hefo acen Saesneg a doeddwn ddim yn siared Cymraeg. Doedd pobl ddim yn deall pam roeddwn yn dysgu Cymraeg ond dwi mor falch fy mod wedi gwneud."

Ychwanegodd y bydd yn cario ymlaen gyda gwersi Cymraeg a cynnal gwersi gemwaith yn yr iaith.

"Ac fe fydd gennym rhywbeth i'w drafod yn y grwp trafod nesaf," meddai.

Cyhoeddwyd hyn ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 6 Awst, a derbyniodd Lucy Dlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Spencer a Jeni Harris, a £300, yn rhoddedig gan Ann Aubrey.  Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Hughes

    8:00am - 11:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'