Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mona, y gyfansoddwraig Mari Pritchard yw Llywydd dydd Gwener.
“Mi ges i fy ngeni yn Rhosmeirch ar gyrion Llangefni. Yn fuan wedyn, mi symudon ni fel teulu i Dyfriar, fferm y teulu yn ardal Bryngwran.”
”Mi ges i fagwraeth hyfryd mewn cymuned oedd, rhwng capel Hebron, Ysgol Gynradd Pencarnisiog ac Ysgol Uwchradd Bodedern, yn llawn cerddoriaeth. Dwi bellach wedi ymgartrefu yn Beaumaris.”
“Dwi’n ymfalchïo cael dweud fy mod yn perthyn i’r diweddar Eirianwen Williams, (Price bryd hynny).”
”Dwi’n trysori y gwersi cynnar rheiny o gerdd dant yn nghartref Eirianwen yn Llangefni, mi oedd hi bob amser mor gytbwys, mor ddoeth a llawn brwdfrydedd bob amser.”
”Wrthi mi fynd ymlaen i hyfforddi eraill, mae’r dylanwad yna wedi aros hefo fi, a dwi wir wedi mwynhau gweld pobol ifanc yn magu sgiliau a hyder wrth gystadlu.”
”Ac er mai nid ennill ydy’r nod pwysicaf i mi, does dim amheuaeth fod gweld disgyblion yn cyrraedd y brig yn y genedlaethol yn brofiad gwefreiddiol.”
“Mi gymerodd hi ddipyn o amser i mi fagu’r plwc i gystadlu ar ben fy hun yn yr Eisteddfod. Dawnsio Gwerin oedd ‘forte’ Ysgol Gynradd Pencarnisiog, gyda’r enwog Owen Huw yn ein hyfforddi ni.”
”Mi oeddwn i wedyn yn cymryd rhan yn y parti canu a llefaru gyda adran Llanfaelog.”
”Yna, mentro i fyd canu unigol wrth fynd yn hyn, a gyda’r anogaeth anhygoel gawson ni gyd yn Ysgol Uwchradd Bodedern, cystadlu ganwaith fel deuawd, triawd ac mewn corau lu – mi wnaethon ni hyd yn oed ennill unwaith ar y parti adrodd ‘i gyfeiliant’!”


Elin Undeg yn ennill Coron yr Urdd
Elin Undeg wins the Urdd Crown
Mari Pritchard is Friday’s President
Ble nesa i Eisteddfod yr Urdd?
Where next for the Urdd Eisteddfod?