Yr hyfforddwr pêl-droed Osian Roberts yw llywydd dydd Mercher yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mona.
Wedi ei eni a’i fagu yn Bodffordd, mae Osian erbyn hyn yn byw ger Llyn Como yn yr Eidal.
Mae ganddo bedwar o blant a dwy wyres. Roedd yn is-hyfforddwr Cymru o dan Gary Speed, Chris Coleman a Ryan Giggs ac mae erbyn hyn yn bennaeth datblygu Como 1907.
Un o’i hoff atgofion o’r Urdd yw cystadlu yn yr adrodd unigol, partïon adrodd a cân actol hefo Ysgol Gynradd Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni – ac mae’n falch iawn o’r ffaith eu bod wedi cyrraedd y genedlaethol hefo gân actol ddwywaith!
Meddai Osian: “Dw i’n teimlo fod y profiadau gefais gyda’r Urdd wedi bod o fudd mawr i mi yn fy ngyrfa – dysgu i berfformio, sut i gyfathrebu, delio hefo nerfau a siomedigaethau.”
”Hefyd y pwysigrwydd o ymarfer a rhoi’r oriau i mewn – dysgu sut i ennill, sut i golli a sut i ddygymod â hynny.”
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi diolch o galon i'r Ynys Môn am estyn croeso cynnes i'r miloedd sydd wedi heidio i fwynhau a chystadlu ar faes prifwyl ieuenctid Cymru.
Congratulations to everyone from Anglesey and Gwynedd who took part in the Urdd National Eisteddfod at Mona - here's a full results rundown from the stage competitions.