Cyflwynwyd Medal R. Alun Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026 i Penri Williams, i nodi dros 40 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i'r Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru.
Yn enedigol o Borthmadog ond wedi ymgartrefu yn ardal Rhondda Cynon Taf, mae Penri Williams wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg y gymuned dros sawl degawd.
Caiff ei gydnabod am olygu papur bro Tafod Elai am 38 mlynedd, yn ogystal â'i gyfraniad i nifer o gorau, gan gynnwys Côr Godre'r Garth, Côr y Mochyn Du/Hen Nodiant a Chôrdydd.
Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb y Dwrlyn yn 1979 ac mae wedi bod yn ganolog i gynnal gweithgareddau Cymraeg yn ardal Creigiau, Gwaelod y Garth a Phentyrch, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth Plygain ac ymweliad blynyddol y Fari Lwyd.
Cyn ymddeol roedd yn beiriannydd ym mhwerdy Aberddawan ym Mro Morgannwg. Drwy'r cyfnod hwnnw ac ers hynny mae wedi defnyddio ei gefndir mewn technoleg i wneud gwaith arloesol gyda mentrau iaith, hyrwyddo addysg Gymraeg, cefnogi mudiadau diwylliannol yn ogystal â chryfhau presenoldeb y Gymraeg ar-lein.
Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno'n flynyddol i gymwynaswr bro sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol, er cof am y diweddar Barch. R. Alun Evans.
Ffigwr canolog yn hanes yr Eisteddfod, fe wasanaethodd ar y Cyngor am flynyddoedd ac fel Cymrawd ers 2007. Bu farw ychydig ddyddiau ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn 86 oed.

Wrth enwebu Penri Williams, dywedodd Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024: "Mae cyfraniad Penri i Gymreictod yr ardal yn amhrisiadwy. Mae'n un o'r bobl yna cewch bob amser ddibynnu arno."
"Defnyddiwn y gair 'anhygoel' yn rhy aml o lawer ond mae'r gamp mae wedi'i chyflawni gyda'r papur bro gan gyhoeddi 403 rhifyn, wir wedi bod yn anhygoel. Rydym fel tîm newydd yn ymdrechu i lenwi ei esgidiau ond mae'n her a hanner."
Cafodd Penri wybod ei fod i dderbyn y fedal yn ystod Eisteddfod ym Mhontypridd.
Dywedodd Penri Williams: "Roeddwn yn disgwyl canu gyda'r côr ac yn gwrando ar Helen ac yn ceisio dyfalu am pwy roedd hi'n siarad. Doeddwn ddim yn disgwyl iddi fy enwi i a daeth fel bach o sioc."
"Rwy'n hynod falch o'r anrhydedd ac yn ei werthfawrogi'n fawr ac mae wedi bod yn ddiwrnod arbennig."
Wrth glywed mai Penri Williams yw derbynnydd y wobr eleni, croesawodd teulu R. Alun Evans y newyddion.
Dywedodd ei ferch, Betsan Powys: "Dwi'n nabod Penri ers blynyddoedd, ac yn gwybod o brofiad amdano fel rhywun sy'n cyfrannu'n dawel yn y cefndir, yn holi sut gall e helpu ac yn ateb y galw. Mae hynny'n wir amdano mewn pob math o feysydd ond amlycaf i fi, fel cyd-aelod o Gôrdydd."
""Roedd clywed, felly, mai Penri fydd yn cael Medal R. Alun eleni yn newyddion bendigedig. Sôn am 'gymwynaswr bro' - dyna Penri."
Yn 2022 derbyniodd Penri Ryddfraint Cymuned Pentyrch am ei wasanaeth enfawr dros y Gymraeg a Cymreictod y cylch.


Ysgoloriaeth i artist ifanc o Ddeiniolen