Pont y Borth: cyfyngiadau'n "rhwystredig iawn"

Thursday, 28 May 2026 18:45

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae pobl wedi cael eu "siomi am ormod o amser" ynghylch cadernid croesfannau Menai, yn ôl y gweinidog trafnidiaeth newydd.

Mae mesurau ychwanegol wedi cael eu cyflwyno ar Bont y Porth yn dilyn tair croesiad heb awdurdod mewn dau ddiwrnod gan gerbydau gorbwysau.

Mae'r heddlu a swyddogion traffig bellach yn patrolio'r bont a bydd unrhyw gerbydau dros y terfyn o 7.5 tunnell yn cael eu troi i ffwrdd.

Mae goleuadau traffig dros dro hefyd ar waith ar gyfer gweddill Eisteddfod Gendlaethol yr Urdd, sy'n gorffen ym Mona ddydd Gwener.

Mae Llywodraeth Cymru wedi annog gyrwyr i ddilyn y cyfyngiadau pwysau ac wedi rhybuddio y bydd unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio yn cael eu cyfeirio at yr heddlu.

Dyweddod Mark Hooper, dirprwy weinidog trafnidiaeth: "Mae’r cyfyngiadau diweddar ar Bont Menai wedi bod yn hynod rwystredig, yn enwedig yn ystod wythnos mor bwysig i Ynys Môn ac i Gymru, gyda’r Urdd Eisteddfod yn cael ei chynnal."

"Rydym yn ailadrodd mai dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell all ddefnyddio’r bont."

"Yn dilyn achosion diweddar o dorri’r rheolau, bydd goleuadau traffig ar waith drwy gydol wythnos yr Urdd Eisteddfod. Bydd cerbydau rhy drwm yn cael eu troi i ffwrdd, a bydd unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio yn cael eu cyfeirio at yr heddlu."

"Rydym wedi cynyddu presenoldeb yr heddlu a swyddogion traffig Llywodraeth Cymru i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac i gadw’r groesfan ar agor."

"Rydym yn annog y cyhoedd i barchu’r rhai sy’n gweithio ar y bont ac i ddilyn eu cyfarwyddiadau."

"Mae pobl Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi eu siomi am rhy hir gan annibynadwyedd croesfannau’r Fenai. Bydd y llywodraeth hon yn gweithredu’n gynt ac yn fwy pendant."

"Rydym eisoes wedi dechrau gwaith o fewn y Llywodraeth i sicrhau mesurau tymor byr ac atebion tymor hir i gryfhau gwytnwch ar draws y Menai. Byddwn yn nodi ein cynlluniau yn fuan."

"Mae cymunedau ar ddwy ochr y Menai yn haeddu cysylltiadau dibynadwy, ac rydym yn benderfynol o sicrhau hynny."

#

Disgwylir i waith cynnal a chadw ar y bont gael ei gwblhau'r flwyddyn nesaf, er gwaethaf addewid gan y cyn-weinidog trafnidiaeth Ken Skates y byddai'n cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y 200fed pen-blwydd ym mis Chwefror.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Yn ystod ein cyfnod yn y llywodraeth, gwnaed gwaith helaeth i gynnal ac adnewyddu Pont y Borth, lle roedd diogelwch a chyfanrwydd strwythurol y bont yn bryder craidd."

"Rydym bob amser wedi bod yn glir ynghylch yr angen dybryd i ddatblygu atebion i wella gwydnwch cysylltiadau trafnidiaeth ar draws Afon Menai a byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth newydd Cymru i gyfrif am y materion hyn."

Mae trefnwyr yr Urdd yn cynghori unrhyw un sy'n bwriadu teithio i ddiwrnod olaf yr Eisteddfod i ganiatáu digon o amser ar gyfer eu taith a chadw llygad ar y sefyllfa drafnidiaeth.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Urdd: "Manylion cyswllt adran Eisteddfod yr Urdd os yw cyfyngiadau traffig yn golygu fod cystadleuwyr yn hwyr yn cyrraedd y Maes yw 0345 257 1613 neu eisteddfod@urdd.org"

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Eisteddfod

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Your Weekend Starts Early

    7:00pm - 9:00pm

    Brynski & Kalso are in the mix to kick-start your weekend a little earlier!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'