Mae'r heddlu'n annog gyrwyr i disgwyl oediadau posib yn ardal Gwalchmai cyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026.
Mae'r paratoadau olaf yn parhau ar faes sioe Mona, lle mae gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop yn cychwyn ddydd Sadwrn - am y tro cyntaf ar Ynys Môn ers 2004.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, bydd mwy o draffig yn ac o gwmpas Maes y Eisteddfod dros y dyddiau nesaf wrth i'r ŵyl gael ei sefydlu ac ymwelwyr ddechrau cyrraedd.
Dwyeddod llefarydd: "‘Da ni’n annog pob ymwelydd, boed nhw’n lleol neu’n teithio o bell, i gynllunio eu taith o flaen llaw a dilyn yr arwyddion ffyrdd sydd wedi’u marcio’n eglur. Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus lle bo’n bosib."
"Mi anogir gyrwyr gymryd gofal ychwanegol ger y Maes, bod yn wyliadwrus o gerddwyr, a dilyn y trefniadau traffig dros dro fydd wedi’u gosod er mwyn sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd a’r gymuned leol."
Mae trefnwyr yr Urdd yn annog gyrwyr i ddilyn arwyddion melyn swyddogol i gyrraedd y Maes, ar ôl gadael yr A55 wrth gyffordd 6 o'r de (cyfnewidfa Nant Turnpike) neu cyffordd 5 o'r gogledd (cyfnewidfa Treban).
O ran trafnidiaeth gyhoeddus, yr orsafoedd trên agosaf yw Llanfairpwll (9 milltir i ffwrdd) a Thŷ Croes (pum milltir i ffwrdd - gofynnwch am yr arhosfan) gyda'r Maes ar lwybr bws 4A rhwng Bangor a Chaergybi.
Mae lleoedd parcio beics ar gael yn y Ganolfan Groeso ond nid yw trefnwyr yn argymell cerdded i'r Maes gan nad oes palmant yn arwain at faes y sioe.


Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Môn wrth galon Cadair a Choron Urdd 2026
Urdd 2026: Chair and Crown unveiled