Tudur Owen yw llywydd ddydd Sul yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mona.
Yn enedigol o Fôn, mae'r awdur, gomedïwr a darlledwr wedi siarad am ei anrhydedd fel llywydd y dydd ac wedi disgrifio ymweliad yr ŵyl - am yr tro cyntaf ers 2004 - fel digwyddiad pwysig iawn i'r ynys.
Dyweddod Tudur: "Mi fues i'n gystadleuydd gobeithiol ar y piano yn Eisteddfodau'r Urdd pan oeddwn i'n blentyn ond er mawr siom i fy mam, wnes i erioed fynd pellach na'r Eisteddfod Sir."
"Er hyn, dwi'n falch iawn o fy nghysylltiad â'r mudiad ar hyd y blynyddoedd. Mi wnes i achub ar y cyfleoedd roedd yr Urdd yn eu cynnig, yn enwedig gwersylla yng Nglan-llyn nifer o weithiau, a mwynhau bob eiliad."
"Yn hwyrach ymlaen, wrth weithio fel is-gynhyrchydd ar raglen blant Uned 5, fy 'claim to fame' oedd fy mod i wedi llwyddo i ddod â holl weithgareddau'r pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd, Bro Preseli i stop wedi i mi drefnu awyren i wneud arddangosfa 'Aerobatic' uwchben y maes."
"Mae ymweliad yr Eisteddfod a Môn eleni yn ddigwyddiad pwysig iawn i'r ynys a dwi'n hynod falch ei bod hi'n mynd i fod ar ein cae sioe, gan fod gen i a fy nheulu gysylltiadau agos iawn â'r lleoliad arbennig yma."
"Mae cael fy newis i fod yn Llywydd y Dydd yn anrhydedd sy'n golygu cymaint i mi, ac rydw i'n edrych ymlaen at ddiwrnod cofiadwy a llawn hwyl."
Roedd cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, George North, yn Llywydd ddydd Sadwrn gyda'r gantores Elin Fflur yn cymryd y rôl ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Bydd y Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth, yn Llywydd ddydd Mawrth, ac yna'r rheolwr pêl-droed Osian Roberts ddydd Mercher, y digrifwraig Kiri-Pritchard McLean ddydd Iau a'r cyfarwyddwr cerdd Mari Pritchard ddydd Gwener.


Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol
Urdd Eisteddfod 2026: local results
Cyhoeddi Llywyddion Anrhydeddus Urdd 2026
Seven Honorary Presidents for Urdd 2026
Tudur Owen 'honoured' by President role