Mae’r apêl codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026 ar Ynys Môn wedi cyrraedd ei tharged gydag wythnos i fynd.
Mae paratoadau terfynol wedi dechrau ym maes sioe Mona ger Gwalchmai, lle disgwylir tua 100,000 o ymwelwyr ar gyfer gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, sy'n dechrau ddydd Sadwrn nesaf.
Am y tro cyntaf, mae'r trefnwyr wedi ehangu'r brifwyl i saith diwrnod, mewn ymateb i'r cynnydd yn y niferoedd sy'n cofestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd.
Eleni, mae’r Urdd wedi denu mwy na 14,000 o geisiadau – gyda nifer record o blant a phobl ifanc o Ynys Môn yn cofrestru i gymryd rhan.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pwyllgorau lleol wedi bod yn codi arian ar gyfer yr Eisteddfod - y gyntaf ym Môn ers 2004.
Dyweddod Manon Wyn Williams, cadeiydd y pwyllgor gwaith: "Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r holl unigolion gweithgar a brwdfrydig sydd wedi cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd tuag at y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod eleni."
"Diolch i'w gwaith caled hwy, rydym wedi llwyddo i gyrraedd targed ariannol y sir a chasglu £380,000."
"Rydym hefyd yn gwerthfawrogi gwaith diflino hyfforddwyr ac athrawon sydd wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn sicrhau bod mwy nag erioed o blant a phobl ifanc Môn yn cael profiadau amhrisiadwy drwy gystadlu yn yr Eisteddfodau cylch a rhanbarth."
"Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld penllanw gwerth dwy flynedd a hanner o waith paratoi a chael estyn croeso i bawb i'r Eisteddfod saith niwrnod gyntaf ym Môn."

Drwy gydol yr wythnos, mae dros 400 o gystadlaethau yn cael eu gynnal, yn amrywio o lefaru, canu, a dawnsio i gelf, chrefft, trin gwallt a choginio.
Yn ôl y trefnwyr, mae cyflwyno cystadlaethau newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a gynhelir ar ddiwrnod cyntaf yr wyl, wedi helpu i gynyddu nifer y cystadleuwyr.
Dyma amserlen y cystadlaethau yn y tri phafiliwn - coch, gwyn a gwyrdd:
- Dydd Sadwrn: dysgwyr, dawnsio disgo, ADY (anghenion dysgu ychwanegol)
- Dydd Sul: Aelwydydd
- Dydd Llun: Uwchradd blwyddyn 10 a dan 19 oed
- Dydd Mawrth: Uwchradd blwyddyn 7-9, offerynnol blwyddyn 10 a dan 25 oed
- Dydd Mercher: Adrannau, Uwchradd offerynnol blwyddyn 7-9
- Dydd Iau: Cynradd (Cân actol a pherfformiad theatrig i ysgolion ac Adrannau)
- Dydd Gwener: Cynradd
Bydd y prif seremonïau gwobrwyo yn digwydd yn y pafiliwn gwyn yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:
- Dydd Sadwrn: Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones
- Dydd Llun: Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a'r Fedal Gelf
- Dydd Mawrth: Y Fedal Gyfansoddi
- Dydd Mercher: Y Fedal Ddrama
- Dydd Iau, Y Gadair
- Dydd Gwener, Y Goron
Meddai Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau Urdd: "Mae Eisteddfod yr Urdd i bawb, ac mae ymestyn yr ŵyl i saith diwrnod am y tro cyntaf erioed wedi'n galluogi i ehangu ein cynnig a denu cystadleuwyr newydd."
"Mae gweld twf ymysg cystadleuwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn brawf fod yr ŵyl yn parhau i ymestyn cyfleoedd celfyddydol o bob math i blant a phobl ifanc, a hynny drwy'r Gymraeg."
"Diolch o galon i Ynys Môn am y croeso cynnes, i'r pwyllgorau lleol am eu holl waith a'u cefnogaeth hael, ac i'r cannoedd o wirfoddolwyr fydd yn ein helpu i gynnal gŵyl hanesyddol wythnos nesaf."

Bydd penwythnos agoriadol yr Eisteddfod yn cynnwys Gŵyl Triban gyda lein-yp nos Sadwrn yn cynnwys Ciwb, Aleighcia Scott, Dros Dro, Mynadd, Tew Tew Tennau, Maes Parcio ac Alis Glyn.
Ar nos Sul, bydd bandiau ac artistiaid lleol yn cymryd y llwyfan gan gynnwys Elin Fflur, Fleur de Lys, Gwilym, Cordia, Buddug a Popeth.
Mae teuluoedd incwm is yn medru parhau i hawlio tocynnau am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd, diolch i gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Ynys Môn: "Fel Môn Mam Cymru, mae Ynys Môn yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, ac rydym yn hynod o falch cael croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yma."
"Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddathliad pwerus o'n hiaith, ein diwylliant ac, yn anad dim, o'n pobl ifanc."
"Mae gŵyl eleni yn arbennig o arwyddocaol gan ei bod yn cael ei chynnal dros saith diwrnod am y tro cyntaf, gyda miloedd o blant a phobl ifanc yn cystadlu ac yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol mewn awyrgylch greadigol, gymdeithasol a chystadleuol."
"Ar ran Cyngor Sir Ynys Môn a phobl ein hynys, hoffwn estyn croeso cynnes iawn i bawb sy'n ymweld, a dymuno pob lwc i'r holl gystadleuwyr yn ystod wythnos fythgofiadwy yma ar y Fam Ynys."
Bydd MônFM yn darparu darllediadau helaeth o’r ŵyl ar yr awyr ac ar-lein drwy gydol yr wythnos (dydd Sadwrn 23 - dydd Gwener 29 Mai)


Urdd Eisteddfod reaches fundraising target
Môn wrth galon Cadair a Choron Urdd 2026
Urdd 2026: Chair and Crown unveiled
Gorsedd: Green Robes for Malachy