Caernarfon fydd yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2028, mae trefnwyr wedi cadarnhau.
Ddydd Llun, datgelodd Urdd Gobaith Cymru y byddai'r ardal Caernarfon yn cynnal y digwyddiad am y tro cyntaf ers 1956, yn dilyn trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd.
Does dim lleoliad ar gyfer y Maes ar hyn o bryd, ond mae safle ar Ffordd Bethel yn cael ei ystyried.
Yn 2012, cynhaliwyd yr ŵyl ar ystâd Glynllifon, ond roedd problemau traffig mawr o amgylch yr ardal.
Dyweddod Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydau'r Urdd: "Rydym mor gyffrous fod Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i ardal Caernarfon yn 2028, ble mae’r Gymraeg i’w chlywed yn naturiol, ac yn fwrlwm o weithgareddau cymunedol a chelfyddydol."
"Mae’r gefnogaeth ydym ni eisoes wedi ei gael gan Gyngor Gwynedd a’r rhanbarth cyfan i gynnal yr Eisteddfod yn Eryri yn 2028 yn wych."
"Mae safle yn cael ei ystyried ar Ffordd Bethel, Caernarfon, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r union leoliad wedi trafodaethau pellach rhwng yr Urdd, Cyngor Gwynedd a pherchnogion tir lleol."
"Un o gryfderau Eisteddfod yr Urdd yw ei bod yn teithio ac yn rhan annatod o fywydau cymunedau ledled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda Chyngor Gwynedd, partneriaid lleol a’r gymuned dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau gŵyl gofiadwy a phrofiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal."

Y llynedd, cafwyd cais ffurfiol gan Gyngor Gwynedd i wahodd yr ŵyl yn ôl i'r sir, a chafodd hyn ei dderbyn gan swyddogion yr Urdd.
Eleni, mae'r ŵyl yn digwydd llai na 30 milltir i ffwrdd o Gaernarfon ar cae Sioe Môn ym Mona, ger Gwalchmai.
Meddai y Cynghorydd Menna Trenholme, dirpwy arweinydd y cyngor: "Rydym yn hynod falch o allu croesawu Eisteddfod yr Urdd i Wynedd yn 2028, dyma’r tro cyntaf i’r wŷl ddod i ardal Arfon ers 2012 ac rwy’n gwybod bydd y gymuned leol yn sicrhau y bydd yn Eisteddfod i’w chofio i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru."
"Mae’r cyngor wedi cynorthwyo’r Urdd i adnabod safleoedd posib, ac rydym yn falch eu bod bellach yn cyhoeddi mai ardal Caernarfon fydd cartref yr ŵyl mewn cwta dwy flynedd."
"Bydd llawer o waith i’w wneud cyn hynny a dwi’n edrych ymlaen at fwrlwm y paratoadau. Mae’r cynnwrf sydd i’w deimlo yma ym Môn yr wythnos hon yn ysbrydoliaeth i ni gyd."
Ychwanegodd Mared Llywelyn, cadeirydd pwyllgor gwaith ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2028: "Rydym wrth ein boddau y bydd safle Eisteddfod Eryri 2028 yn ardal Caernarfon. Mae'n dref sy'n llawn egni a bwrlwm a hynny yng nghalon ardal Eryri."


Dafydd yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Elin Fflur: O'r Llwyfan i'r Llywydd
Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol
Urdd Eisteddfod 2026: local results