
Glo, pêl-droed, pont dŵr a bragdai'r ardal yw'r ysbrydoliaeth i'r crefftwyr sy'n creu Cadair Eisteddfodol sy'n cyfleu 'Ddoe, Heddiw ac Yfory' yn Wrecsam.
Bu Gafyn Owen a'i bartner busnes Sean Nelson yn ymchwilio i hanes ac diwylliant ardal yr Eisteddfod yn fanwl cyn cyflwyno eu syniadau am y wobr bwysig hon i'r swyddogion lleol.
Dywedodd Gafyn, sy'n hannu o Fangor, eu bod yn fuan wedi adnabod pedwar prif tirnod sydd yn ymwneud a Wrecsam a sy'n bwysig i'r trigolion lleol.
"Mae'r pedwar brif nodwedd hyn, sef hanes y pyllau glo Wrecsam, pont ddŵr Froncysyllte, bragdai'r ddinas a'u cariad at y tîm bêl-droed yn tanseilio'r cynllun ac wedi ysbrydoli ein taith dylunio i greu y braslun," meddai.
Mae cefn y gadair yn adlewyrchu bwa pont ddŵr Froncysyllte.
"Bydd y bwa yn cael ei lenwi gyda tair ffenestr wydr gyda'r gwydr yn cael ei ysgyrthu gyda enw llawn y Brifwyl ac unrhyw symbolau eraill addas."
"Mae'r ffenestr yn adlewyrchu yr eglwysi a chapeli y ddinas ac hefyd o bosib yn ffenestr i ddyfodol y Brifwyl. Cadair fydd yn adlewyrchu 'Ddoe, Heddiw ac Yfory' yn ninas Wrecsam."
Ychwanegodd Gafyn bod rhan uchaf y gadair yn cymryd ysbrydoliaeth o siâp tô Cae Ras, stadiwm pêl-droed y ddinas.
"Mae'r llinellau yma yn gynnil ond yn ddigon cryf i wneud argraff ac amnaid i'r elfen pêl-droed sydd yn amlwg yn cael sylw sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf."
"Mae sedd y gadair hefyd wedi ei gorchuddio mewn defnydd coch sef lliwiau'r tîm pêl-droed," meddai.
Elfen arall bwysig yn nhreftadaeth y ddinas yw'r diwydiant glo ac mae'r Gadair yn cynnig teyrnged i'r ddamwain erchyll ym mhwll Gresffordd yn 1934.
Dywedodd Gafyn: "Rydym wedi ceisio rhoi sylw i hyn gan defnyddio siâp olwynion y pyllau glo fel sydd yn cael ei arddangos yn y gofeb yn Gresffordd. Byddai hyn yn atgyfnerthu breichiau'r gadair fel symbol o sut gwnaiff y gymuned glo leol gefnogi ei gilydd dros y blynyddoedd ar ôl y ddamwain."
Mae bragdai hanesyddol Wrecsam yn fyd enwog ac mae llawer o adeiladau a phensaernïaeth y ddinas yn adlewyrchu dylanwad y diwydiant dros y blynyddoedd gan gynnwys y simnai sydd yn sefyll yn uchel yn nghanol y dref.
"Mae coesau blaen y gadair yn dilyn siâp hecsagon y simnai, eto yn gynnil ond yn rhoi cydnabyddiaeth i'r hanes. Mae hefyd yn nodi bod yr Eisteddfod fodern wedi ei chynnal yn Wrecsam chwe gwaith o'r blaen," meddai Gafyn.
Dechreuodd Gafyn a Sean y gwaith o greu'r Gadair yn eu gweithdy yn y Fflint yn y gwanwyn.
"Y peth cynta wnaethom ni oedd nol coed o Erddig ger Wrecsam. Mae'r Gadair mor lleol i Wrecsam a sy'n bosib iddi fod," meddai.
Cyflwynir y Gadair am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, hyd at 250 llinell, ar y testun 'Dinas'.
Y beirniaid yw Peredur Lynch, Llŷr Gwyn Lewis a Menna Elfyn. Rhoddir y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru, a'r wobr ariannol gan Goleg Cambria.
Y Gadair hon yw'r cyntaf i Gafyn ei chreu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ond nid yw'r gwaith yn gwbl ddiethr iddo. Yn y gorffennol mae wedi creu sawl cadair i Eisteddfodau lleol ac ysgolion.
Sefydlodd Gafyn a Sean, sy'n byw yn Gresffordd, eu cwmni MijMoj Design, yn 2012 mewn garej fychan ger cartref rhieni Gafyn yn Llanfairfechan.
Adeiladu dodrefn modern a phwrpasol oedd eu cynnyrch gwreiddiol ond wrth werthu eu cypyrddau ac ati mewn ffeiriau crefft gwelsant fwlch yn y farchnad ar gyfer anrhegion personol o ansawdd uchel.
Arweiniodd hyn i'r cwmni dyfu yn fusnes anrhegion ffyniannus sydd wedi gwerthu mwy na 200,000 o gynhyrchion ar-lein. Mae eu cynnyrch yn cael sylw amlwg ar wefanau gwerthu arlein a chafodd un o'i eitemau mwyaf poblogaidd ei arddangos ar raglen teledu cenedlaethol.
Mae'r cwmni bellach yn cyflogi 14 o staff mewn uned fawr ar Barc Busnes yn Fflint.