Mae artist aml-ddisgyblaethol o Ddeiniolen wedi ennill ysgoloriaeth gelf fawreddog ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Garreg Las.
Mae Cushia Rose Luxton yn gweithio ar draws cerfluniaeth, ffilm a ffotograffiaeth a chyflwynodd cyfres o ffilmiau byr a fydd yn cael ei ddangos yn Y Lle Celf yn ystod wythnos y Brifwyl.
Ar hyn o bryd, mae'r ferch 21 oed yn fyfyrwraig yng Ngholeg Goldsmith ym Mhrifysgol Llundain, ond mae hi'n gobeithio defnyddio'r wobr o £1500 i fynychu cwrs mewn ysgol gelf neu goleg cydnabyddedig, neu i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr i ddatblygu ei gyrfa ymhellach.
"Rwy'n tynnu llawer o ysbrydoliaeth o Elidir Fawr, y mynydd sy'n cefnu ar fy nghartref, a'r hen chwareli llechi sy'n datgelu cyfriniaeth bywyd bob dydd wrth archwilio fy hanes personol fy hun hefyd", meddai Cushia.
"Maent wedi'u ffilmio ar ffilm Double Super 8 sy'n eithaf anarferol y dyddiau hyn ac mae'n reit anodd dod o hyd i rywle i'w ddatblygu felly rwyf wedi dysgu eu datblygu fy hun."
"Rwyf wedi sefydlu ystafell dywyll ac wedi gwneud teledu dros dro fy hun. Hoffwn sefydlu cymuned fach o wneuthurwyr ffilmiau yng Ngwynedd yn y dyfodol."

Dywed Cushia fod ei gwaith wedi'i gysylltu'n ddwfn â'i theulu a bod ei chartref wedi dyfnhau yn ystod ei chwrs gradd mewn Celfyddyd Gain yn Llundain.
"Pan oeddwn yn Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda roeddwn i eisiau astudio mathemateg ond cymerais gam yn ôl a chymerais gwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai a sylweddolais fy mod yn mwynhau cerflunio ac arweiniodd hynny at y cwrs yn Llundain."
Mae Cushla yn ymwelydd rheolaidd â Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2024, arweiniodd deithiau tywys o amgylch yr arddangosfa ym Mhontypridd.
"Ond dyma'r tro cyntaf i mi gystadlu ac rwy'n falch iawn bod fy ymdrechion wedi cael eu cydnabod," meddai.

Mae Ysgoloriaeth yr Artist Newydd ar agor i'r rhai sydd wedi bod yn astudio neu'n gweithio fel artist am lai na phum mlynedd.
Dyweddod yr panel beirniadu, Christine Kinsey ac Llio James, eu bod wedi eu plesio gan y gwaith a gyflwynwyd ar gyfer yr ysgoloriaeth werth £1500, wedi'i ariannu eleni gan Gymdeithas Hen Beirianwyr Amaethyddol a Morwrol Aberteifi ar Cylch.
Meddai Christine Kinsey: "Mae'r gwaith sy'n cael ei gyflwyno yn Y Lle Celf yn arddangos amrywiaeth eang o gyfryngau a thechnegau sy'n hanfodol i archwiliad o leisiau ac iaith weledol Cymru."
"Mae profi'r celfyddydau mewn perthynas ag ymdeilad o le a diwylliant yn adlewyrchu bywyd cyfoes ac yn mynd i'r afael â'r phryderon sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth, gwrthdaro, hunaniaeth a'r amgylchedd yn ogystal â sut mae artistiaid yn edrych ar y byd heddiw ac yn meddwl amdano."
"Mae gan yr artistiaid yn yr arddangosfa hon leisiau unigol, ac eto gyda'i gilydd, maent yn dangos i ni pa mor bwysig yw hi ein bod yn gallu gweld cynrychiolaeth o ddarlun mwy gyda syniadau a theimladau penodol mewn perthynas â diwylliant Cymru."
Ychwanegodd Llio James: "Bu'n galonogol gweld cymaint o weithiau yn arddangos nid yn unig fedr dechnegol a chrefftwaith eithriadol ond hefyd gwreiddioldeb, dychymyg a dealltwriaeth ddofn o briodweddau deunyddiau."
"Rwy'n teimlo bod y detholiad terfynol yw casgliad bywiog, llawn lliw ac egni sy'n adlewyrchu straeon a themâu o'n cymunedau heddiw."
Cyflwynir yr ysgoloriaeth mewn seremoni ym Mhafiliwn yn Llantwd nos Sadwrn.

