Mae papur pleidleisio sain wedi cael ei gyflwyno ar gyfer etholiad y Senedd yn etholaeth Bangor Conwy Môn.
Bydd yn helpu i gefnogi pleidleiswyr dall neu rhannol ddall trwy gynnig fersiwn sain o’r holl bleidiau a’u hymgeiswyr ar y papur pleidleisio.
Bydd y papur newydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio ar draws yr etholaeth newydd ar gyfer y bleidlais ar ddydd Iau 7 Mai (yn agor rhwng 7yb a 10yh).
Gall y pleidleiswyr sganio’r cod QR, gyda chymorth staff yr orsaf, a fydd yn tywys y pleidleisiwr i ddisgrifiad sain pwrpasol o’r holl bleidiau a’r ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad yn etholaeth Bangor Conwy Môn.
Defnyddir y recordiad sain ar y cyd â’r droshaen papur pleidleisio, a bydd y pleidleisiwr yn clywed pa blaid sydd yn cyd-fynd â phob bocs sydd wedi’u rhifo gan gael eu llywio i’r bocs cywir gan ddefnyddio’r rhifau boglynnog a braille sydd wrth eu hochr.
Os nad all rhywun ddefnyddio’r dewis digidol, bydd staff yr orsaf bleidleisio ar gael i’w cynorthwyo a darllen y papur pleidleisio allan i’r pleidleisiwr.
Cliciwch YMA am y rhestr lawn o ymgeiswyr yn etholaeth Bangor Conwy Môn.


Senedd 2026: annog pleidleiswyr i gofrestru
Senedd 2026: ymgeiswyr Gwynedd Maldwyn
Senedd 2026: ymgeiswyr Bangor Conwy Môn