Senedd 2026: annog pleidleiswyr i gofrestru

Monday, 13 April 2026 17:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Comisiwn Etholiadol / Cyngor Gwynedd

Mae pobl yn Ynys Môn a Gwynedd yn cael eu hannog i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ar dydd Iau 7 Mai.

Dylai unrhyw un sydd am bleidleisio wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru cyn hanner nos ddydd Llun 20 Ebrill.

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.

Ond mae ymchwil yn dangos bod rhai grwpiau o bobl – megis pobl ifanc, myfyrwyr a'r rhai sydd wedi symud i fyw yn ddiweddar – yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru nag eraill.

Dywedodd Rhydian Thomas, pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: "Mae hi'n bwysig bod pobl yn gwirio eu bod yn barod i bleidleisio cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai."

"Mae'n rhaid i bob pleidleisiwr fod wedi'u cofrestru i bleidleisio, ac efallai bydd angen i rai pleidleiswyr wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy."

"Mae pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor sy'n byw yng Nghymru hefyd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn, a ni fydd angen ID ffotograffig."

"Os ydych wedi newid eich enw neu'ch cyfeiriad neu wedi symud tŷ ers i chi gofrestru diwethaf, bydd hi ond yn cymryd pum munud i ddiweddaru'ch manylion ar-lein. Mae gwirio nawr yn helpu i sicrhau eich bod gallu pleidleisio mewn modd sy'n iawn i chi."

Wedi cofrestru, gall pobl ddewis sut maent yn dymuno bwrw eu pleidlais – mynd i'w gorsaf bleidleisio leol, trwy'r post, neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy.

Y dyddiad cau ar gyfer gofyn am bleidlais post yw dydd Mawrth 21 Ebrill am 5yh, ac i ofyn am bleidlais ddirprwy yw dydd Mawrth 28 Ebrill am 5yh.

Mae Cyngor Gwynedd sydd yn gweinyddu etholiad etholaeth Gwynedd Maldwyn tra bod Cyngor Sir Conwy yn gweinyddu etholiad etholaeth Bangor Conwy Môn.

Dyweddod Dafydd Gibbard, prif weithredwr Cyngor Gwynedd: "Mae etholiadau'r Senedd yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud ar bwy sy'n eich cynrychioli chi'n lleol ac sy'n gwneud penderfyniadau ar faterion sy'n effeithio bywyd dydd i ddydd yma yng Ngwynedd."

"Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru er mwyn bod yn rhan o etholiad y Senedd ym mis Mai. Mae pawb sydd wedi cofrestru yn derbyn eu cardiau pleidleisio trwy'r post."

"Os nad ydych wedi derbyn eich cerdyn neu os oes gennych gwestiynau ynghylch gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, gallwch gysylltu â Chyngor Gwynedd ar etholiad@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000."

Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae'n cymryd pum munud yn unig i wneud.

Mae'r holl wybodaeth am gofrestru i bleidleisio a'ch holl opsiynau pledleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol ac ar wefannau Cyngor Gwynedd a Cyngor Sir Conwy.

Cliciwch YMA am y rhestr lawn o ymgeiswyr yn etholaethau Bangor Conwy Môn a Gwynedd Maldwyn.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Etholiad 2026

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM

    Noon - 2:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais | Your Station, Your Voice

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'