Newyddion Lleol
-
Gwaith i adfywio stryd fawr hanesyddol Caergybi
Mae Caergybi ar fin cael hwb gwerth £3.25 miliwn trwy gyllid treftadaeth wrth i waith atgyweirio ddechrau ar nifer o adeiladau hanesyddol amlwg ar y stryd fawr.
-
Prifysgol Bangor yn arwain ymchwil i adfer fforestydd glaw tymherus hanfodol yn y Deyrnas Unedig
Mae Prifysgol Bangor wedi lansio rhaglen ymchwil arloesol i adfer ac adfywio fforestydd glaw tymherus prin ac ecolegol gyfoethog yn y Deyrnas Unedig, a hynny mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac mae'r ymchwil wedi'i ariannu gan Aviva.
-
Gobaith newydd i ganolbwynt cymunedol
Mae menter gymunedol wedi dod i gytundeb mewn egwyddor i feddiannu neuadd hanesyddol.
-
Cyngor yn lansio gwasanaeth cefnogi addysg
Mae gwasanaeth newydd fydd yn cyfrannu tuag at gynnal a gwellau safonau addysg i ddisgyblion ysgolion Gwynedd wedi ei lansio.
-
Deiniolen: tri wedi'u hanafu mewn gwrthdrawiad
Mae tri o bobl wedi cael eu hanafu mewn 'gwrthdrawiad penben' ger Deiniolen.
-
Atafaelu fêps anghyfreithlon yng Nghaergybi
Mae dros 1,100 o fêps anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu o ddau safle manwerthu yng Nghaergybi.
-
Cofis yn symud gemau i Llandudno
Mae CPD Tref Caernarfon yn paratoi i chwarae ei gemau cartref yn Llandudno y tymor nesaf.
-
Caergybi: gwaith i ddiweddaru ystafell ffitrwydd
Bydd gwaith i ddiweddaru ystafell ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Caergybi yn dechrau wythnos nesaf.
-
Urdd yn rhyddhau anthem Ewros y Merched
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi rhyddhau 'Ymlaen' - anthem newydd sbon ar gyfer Ewros y Merched 2025.
-
Cartref newydd i gelf nodwydd Bont y Borth
Bydd darn o gelf nodwydd sy’n dyddio o’r 19eg ganrif yn aros ym Mangor wedi ymgyrch lwyddiannus gan yr amgueddfa Storiel.
-
Chwilio am ofalwyr mewn cartref plant newydd
Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal i fynychu digwyddiad recriwtio anffurfiol ar gyfer gweithwyr preswyl yn y cartref plant newydd yn Ninorwig.
-
Cyngor yn targedu staeniau gwm cnoi
Bydd gweithwyr cyngor yng Ngwynedd yn mynd i'r afael hen gwm cnoi oddi ar balmentydd a strydoedd, yn dilyn grant gan fudiad cenedlaethol.
-
Naw yn dathlu gwobrau aur Dug Caeredin
Bu naw o bobl ifanc o Ynys Môn nodi carreg filltir sylweddol yn ddiweddar wrth iddynt fynychu seremoni arbennig ym Mhalas Buckingham.
-
Llangefni: cyhuddo pedwar o llosgi bwriadol
Mae pedwar o bobl ifanc wedi cael eu cyhuddo o gynnau tân yn dilyn tân yn Neuadd y Sir yn Llangefni.
-
Ewros y Merched: enwi carfan Cymru
Mae carfan Cymru wedi’i chyhoeddi gan Rhian Wilkinson ar gopa’r Wyddfa ar gyfer pencampwriaeth Ewros y Merched yn y Swistir.
-
Llwybr Llyn Maelog yn ailagor
Mae llwybr Llyn Maelog ger Rhosneigr wedi ailagor i'r cyhoedd ar ei newydd wedd.
-
£2.1 miliwn i adfywio canol dinas Bangor
Bydd tri phrosiect adfywio yng nghanol dinas Bangor yn rhannu mwy na £2 filiwn mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
-
Ffair dreftadaeth Ynys Cybi yn dychwelyd
Bydd amrywiaeth o weithgareddau gwledig, fel sgiliau coetir a gwehyddu glaswellt y tywod traddodiadol, yn cael eu cynnig i ddathlu trydedd Ffair Dreftadaeth Ynys Cybi.
-
Iawndal i ddioddefwyr ‘twyllwr proffesiynol’
Mae 'twyllwr proffesiynol' gafodd dros £500,000 gan ddioddefwyr bregus wedi ei wahardd am byth rhag galw di-wahoddiad i dai a gwerthu cynnyrch gwella cartrefi.