Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!

Thursday, 22 October 2026 at 09:59

By MônFM

Bydd Gareth yr Orangutan yn ymuno â MônFM i gyflwyno ei raglen ei hun bob prynhawn Sul rhwng 12 a 2 o’r gloch gan gychwyn yr penwythnos hwn.

Mae Gareth yn gymeriad sydd wedi ennill calonnau cynulleidfaoedd ledled Cymru, a bydd o’n dod â’i bersonoliaeth unigryw, digon o hwyl a cherddoriaeth wych i orsaf leol Ynys Môn a Gwynedd.

Wrth sôn am ei raglen newydd, dywedodd Gareth: "Mae pobl wedi dweud erioed bod gen i wyneb i radio! Mae’r cyfle i gael rhaglen fy hun ar MônFM yn un cyffrous, a dw i’n edrych ymlaen i gyflwyno rhywbeth unigryw a gwahanol i unrhyw beth sydd erioed wedi cael ei ddarlledu o’r blaen!”

Ond nid Gareth ydi’r unig dalent ifanc i gadw cwmni i wrandawyr ar brynhawn Sul.

Yn syth ar ei ôl, rhwng 2 a 4 o’r gloch, Fflur Pierce sydd yn cymryd yr awenau. Mae hyn yn golygu y bydd gan MônFM ddau o dalentau ifanc adnybyddus Cymru yn cyflwyno pedair awr o adloniant bob prynhawn Sul.

Newidiadau i'r penwythnos

Mae ’na newidiadau cyffrous ar y ffordd i nosweithiau Sadwrn hefyd. Bydd Cari Hedd yn cadw cwmni i’r gwrandawyr rhwng 5 a 7 o’r gloch, cyn trosglwyddo’r awenau i Rheinallt Davies, fydd ar yr awyr rhwng 7 a 10 o’r gloch.

Bydd Ian yn symud o’i raglen nos Sadwrn i gyflwyno rhaglen frecwast newydd sbon ar fore Sul, rhwng 7 a 10 o’r gloch.

Wrth sôn am y newidiadau, dywedodd Kev Bach, rheolwr rhaglenni MônFM: "Dan ni wrth ein boddau yn croesawu Gareth i deulu MônFM! Mae o’n gymeriad mor adnabyddus, ac mae cael rhywun fel Gareth yn ymuno â ni yn newyddion gwych i’r orsaf ac i’n gwrandawyr."

"Mae cael Gareth a Fflur yn cyflwyno ar brynhawniau Sul yn rhywbeth dan ni’n arbennig o falch ohono. Mae’n bwysig iawn ein bod ni fel gorsaf gymunedol yn rhoi cyfleoedd a llwyfan i dalentau ifanc Cymru ddangos be maen nhw’n gallu ei wneud."

"Mae’r newidiadau i nos Sadwrn, ynghyd â rhaglen frecwast newydd Ian ar fore Sul, yn rhan o’n hymdrechion parhaus i ddatblygu’r orsaf a chynnig amserlen amrywiol, ffres a chyffrous."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from MônFM

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Rheinallt Davies

    4:00pm - 7:00pm

    Ymunwch â Rheinallt am gymysgedd o gerddoriaeth Gymraeg a Saesneg o pob degawd.. bron!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'