Mae CPD Tref Caernarfon yn paratoi i chwarae ei gemau cartref yn Llandudno y tymor nesaf.
Mae tîm Cymru Premier yn bwriadu rhannu maes ym Mharc Maesdu tra bod gwaith adnewyddu yn digwydd yn yr Ofal.
Mewn datganiad ar nos Iau, dwyeddod llefarydd y clwb: “Yn dilyn rhyddhad ein hamserlen gemau cyn y tymor, gallwn gadarnhau ein bod yn dal i aros am ganiatâd cynllunio ar gyfer y gwaith adnewyddu i'r Oval, er ein bod yn gobeithio y bydd hyn ar fin digwydd.”
”Am cyfnod llawn y gwaith ar ein stadiwm byddwn yn chwarae ein gemau cartref yn Llandudno.”
“Edrychwn ymlaen at gadarnhau popeth yn fuan a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn am eu cymorth, a hefyd i Glwb Pêl-droed Llandudno sydd wedi bod yn hynod cymwynasgar yn ein holl drafodaethau.”
Bydd Caernarfon hefyd yn chwarae tair gêm cyn y tymor ym Mharc Maesddu mis Gorffennaf, yn erbyn Llandudno (s’yn chwarae yng ngynghrair Cymru North), Aberystwyth a Wythenshawe.
Bydd Caernarfon yn dechrau eu tymor newydd gyda gêm gartref yn erbyn Bae Colwyn yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG ar benwythnos cyntaf mis Awst.


Cyllid ynni ar gyfer clybiau chwaraeon