Mae wyth clwb chwaraeon o Ynys Môn a Gwynedd wedi sicrhau cyllid i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni..
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Chwaraeon Cymru wedi dyfarnu bron i £114,000 i glybiau yn y rhanbarth fel rhan o cynllun Grantiau Arbed Ynni.
Ers ei lansio yn 2023, mae clybiau wedi gallu gwneud cais am hyd at £25,000 i ariannu ystod o welliannau arbed ynni.
Dwyeddod Brian Davies, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: "Rydym yn falch o helpu clybiau i ddiogelu eu dyfodol wrth i filiau ynni barhau i godi. Mae hynny'n caniatáu iddynt barhau i fod yn ganolog i fywydau pobl, gan arwain at fwynhad gydol oes o chwaraeon."
"Bydd y grantiau a roddir i glybiau yng Nghymru i wella eu mesurau cynaliadwyedd hefyd yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd."
"Mae clybiau ledled Cymru yn elwa o Grantiau Arbed Ynni, drwy leihau costau ynni a lleihau allyriadau carbon, fel bod yr arbedion yn cael eu hail-fuddsoddi mewn chwaraeon lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dyma rai o'r ymgeiswyr llwyddiannus yn lleol:
- Bydd Clwb Rygbi Caernarfon yn lleihau ei filiau ynni i ddarparu hwb cymunedol i'w holl ddefnyddwyr. Diolch i grant o £25,000, bydd yn gosod paneli solar, goleuadau LED ac inswleiddiad yn eu lle.
- Ychydig iawn o foderneiddio sydd wedi bod ar system wresogi Clwb Golff Ynys Môn dros y blynyddoedd. Bydd grant o £24,000 yn galluogi'r clwb i uwchraddio i foeler newydd. Gallai hyn ei helpu i arbed £12,000 y flwyddyn a gostwng ei gostau rhedeg.
- Mae Clwb Golff Caernarfon yn buddsoddi ei grant o £10,710 mewn twll turio, a fydd yn pwmpio dŵr yn syth i'r lawntiau heb fawr ddim cost. Hefyd bydd ailgylchu dŵr daear yn lleihau ei alw ar y prif gyflenwad dŵr cyhoeddus.
- Dyfarnwyd £7,894 i Glwb Criced Porthaethwy. Fel rhan o welliannau helaeth y clwb tuag at gynaliadwyedd a chyrraedd amcanion amgylcheddol, mae am osod batris storio ynni yn eu lle i gefnogi ei baneli solar.
- Mae CPD Aberffraw wedi gweld mwy o alw am ei gyfleusterau. Mae am osod paneli solar yn y clwb gyda'i £6,420, gan gyfrannu at y nodau hinsawdd cenedlaethol.
Meddai Jack Sargeant, y gweinidog chwaraeon: "Mae chwaraeon yn dod â chymunedau at ei gilydd ac mae'n hanfodol y gall ein clybiau barhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod."
"Mae'r cyllid hwn yn helpu sefydliadau ledled Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy, lleihau eu costau rhedeg a chanolbwyntio ar yr hyn maen nhw'n ei wneud orau - denu pobl allan i fod yn egnïol."
Ychwanegodd: "O baneli solar i systemau gwresogi modern, mae clybiau yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau eu biliau ynni tra'n gwneud eu rhan dros yr amgylchedd."
"Mae'r ffigurau o ran arbedion a gwrthbwyso carbon yn siarad drostynt eu hunain. Byddwn yn annog unrhyw glwb sy'n meddwl am wneud gwelliannau arbed ynni i wneud cais pan fydd y cynllun yn ailagor ym mis Mai."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyfarnwyd 120 o wobrau gwerth tua £2.1miliwn yn y flwyddyn diwethaf.
Ar gyfartaledd, mae pob clwb yn arbed tua £3,000 ac yn gwrthbwyso 3.3 tunnell o garbon – amcangyfrifir fod hynny yn gwrthbwyso dros 840 tunnell o garbon y flwyddyn, gydag arbediad ynni amcangyfrifedig o tua £840,000 ar gyfer pob clwb gyda'i gilydd.


Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi
Marwolaeth yn Abermaw: rhyddhau dyn heb gamau pellach