Bydd Caernarfon yn dechrau amddiffyn Cwpan Cymru yn erbyn y Fflint, mewn gêm ailchwarae o rownd derfynol y tymor diwethaf.
Enillodd y Cofis y gwpan am y tro cyntaf yn eu hanes gyda buddugoliaeth o 2-0 dros y clwb o Sir y Fflint yn Rodney Parade yng Nghasnewydd ym mis Ebrill.
Bydd tîm Richard Davies yn teithio i Gae-y-Castell, lle mae Danny Holmes wedi cymryd lle Lee Fowler fel rheolwr.
Mae Caernarfon ar hyn o bryd yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Cymru gyda saith buddugoliaeth o'u hun-ar-ddeg gêm gyntaf, tra bod Flint yn unfed ar ddeg yn y tabl gyda dim ond un fuddugoliaeth.
Bydd ail rownd y gystadleuaeth yn y Gogledd hefyd yn gweld clwb Cymru North, Porthmadog, yn ymweld â Chei Connah o Uwch Gynghgrair, ar ôl curo Penrhyncoch ar giciau o'r smotyn.
Mae Holyhead Hotspur yn chwarae oddi cartref yn y Bala, tra bod Bangor 1876 yn ymweld â Dinbych ar gyfer eu gêm gwpan gyntaf o dan y rheolwr newydd, Huw Griffiths.
Bydd Llanuwchllyn yn teithio i'r Drenewydd, Llangefni i ffwrdd yn Brickfield Rangers a'r Felinheli yn ymweld â Chefn Albion.
Bydd yr ail rownd yn cael ei chwarae dros benwythnos dydd Gwener 16 a dydd Sadwrn 17 Hydref.
Ail rownd Cwpan Cymru - Y Gogledd
Airbus v Y Seintiau Newydd
Coedpoeth v Cegidfa
Llannefydd v Llandudno
Y Drenewydd v Llanuwchllyn
Y Bala v Hotspur Caergybi
Cei Connah v Porthmadog
Penycae v Dolgellau AA
Aberystwyth v Prestatyn
Y Fflint v Caernarfon
Y Llai v Trefynnon
Bwcle v Bae Colwyn
Brickfield Rangers v Llangefni
Dinbych v Bangor 1876
Cefn Albion v Y Feliheli
Llysfaen v Chwaraeon Mochdre


Haf llwyddiannus i Môn Actif