Haf llwyddiannus i Môn Actif

Wednesday, 23 September 2026 12:25

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae Môn Actif wedi canmol llwyddiant ei raglen gweithgareddau gwyliau haf eleni.

Cynhaliwyd 181 o sesiynau gweithgaredd mewn 27 o leoliadau ar draws Ynys Môn gan wasanaeth hamdden y cyngor sir.

Cofnodwyd bod cyfanswm o 14,758 wedi cymryd rhan mewn un o'r rhaglenni gweithgareddau mwyaf a llwyddiannus i Môn Actif ei darparu hyd yma.

Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys nifer o gwersylloedd yn RAF Y Fali a Chlwb Chwaraeon Rhosneigr, diwrnodau Haf o Hwyl Plas Newydd a chefnogaeth i raglen Bwyd a Hwyl, ynghyd â sesiynau arbenigol Mencap ac Insport ac amrywiaeth o weithgareddau yn Sioe Môn.

Yn ôl Môn Actif, roedd niferoedd tebyg o fechgyn a merched wedi cymryd rhan, gan adlewyrchu ymrwymiad y rhaglen i ddarparu cyfleoedd hygyrch.

Dyweddod Barry Edwards, rheolwr datblygu chwaraeon Cyngor Môn: "Mae'r rhaglen haf wedi bod yn llwyddiant ysgubol unwaith eto eleni ac mae'r ffigyrau'n dangos yr effaith sylweddol y mae Môn Actif yn parhau i'w gael mewn cymunedau ar hyd a lled Ynys Môn."

"Mae cofnodi bod 14,000 wedi cymryd rhan yn y rhaglen amrywiol yn llwyddiant anhygoel ac mae'n adlewyrchu ymroddiad, ymrwymiad ac angerdd ein staff, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner."

"Mae gwella cyfranogiad a chefnogi iechyd a lles yn flaenoriaeth allweddol yng nghynllun strategol Môn Actif ac mae'r canlyniadau yma'n dangos ein bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn."

"Trwy ddarparu cyfleoedd cynhwysol, hygyrch a difyr i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd fod yn actif, rydym yn helpu preswylwyr i ddatblygu ffordd iachach o fyw, gwella eu lles a datblygu cysylltiadau cryfach o fewn eu cymunedau lleol."

"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb a wnaeth helpu i ddarparu cyfleoedd drwy gydol yr haf. Unwaith eto, mae cryfder gwaith partneriaeth ar draws yr Ynys wedi bod yn eithriadol."

"Yn fwyaf pwysig, hoffwn ddiolch i bawb wnaeth fynychu'r gweithgareddau a chyfrannu at lwyddiant y rhaglen yn sgil eu brwdfrydedd, eu hegni a'u parodrwydd i gymryd rhan.

Roedd yr adborth a gasglwyd yn ystod yr haf yn dyst i effaith gadarnhaol y rhaglen ac roedd 99.6% wedi mwynhau gweithgareddau Môn Actif yn ystod yr haf.

Roedd 99.5% yn datgan eu bod yn bwriadu archebu lle ar raglen gweithgareddau ar gyfer hanner tymor yr Hydref, gyda chynlluniau eisoes ar y gweill.

Dywedodd y cyngor fod y rhaglen haf wedi dangos "cryfder gwaith partneriai" gan helpu i greu profiadau cadarnhaol ac annog ffordd o fyw mwy iach ac actif mewn cymunedau lleol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n dal y portffolio hamdden yng Nghyngor Môn: "Mae'r canlyniadau hyn yn dangos yn glir fod Môn Actif yn cyfrannu'n gadarnhaol at iechyd, lles ac ansawdd bywyd preswylwyr ym mhob rhan o Ynys Môn."

"Trwy raglen amrywiol o gyfleoedd chwaraeon, chwarae a gweithgareddau corfforol, mae miloedd o blant, pobl ifanc a theuluoedd wedi cael cymorth i fyw bywydau iachach, hapusach a mwy actif."

"Mae'r rhaglen yn cefnogi gweledigaeth cynllun y cyngor i greu Ynys Môn fydd yn iach lle gall pobl ffynnu. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau iaith Gymraeg o ansawdd uchel ac roedd pob sesiwn yn cael ei chyflwyno'n ddwyieithog, gan sicrhau fod preswylwyr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu dewis iaith."

"Rydw i'n falch iawn o'r adborth eithriadol a dderbyniwyd gan gyfranogwyr a rhieni ac mae'n dangos pa mor werthfawr yw'r cyfleoedd hyn i gymunedau."

"Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant aruthrol y rhaglen ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith pwysig hwn yn parhau ledled yr ynys."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'