Ewros y Merched: enwi carfan Cymru

Thursday, 19 June 2025 09:00

By Ystafell Newyddion MônFM

John Smith / CBDC

Mae carfan Cymru wedi’i chyhoeddi gan Rhian Wilkinson ar gopa’r Wyddfa ar gyfer pencampwriaeth Ewros y Merched yn y Swistir.

Angharad James bydd y gapten ac mae’n un o bedwar o chwaraewyr sydd wedi cynrychioli Cymru dros gant o weithiau, ynghyd â Jess Fishlock, chwaraewr mwyaf profiadol Cymru, Hayley Ladd, a Sophie Ingle.

Mae cyn-gapten Ingle yn ôl yn y garfan ar ôl colli'r tymor diwethaf oherwydd anaf i'r ACL

Bydd Cymru’n wynebu enillwyr y ddwy pencampwriaeth Ewro ddiwethaf – Lloegr (2022) a’r Iseldiroedd (2017), yn ogystal â Ffrainc, a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn 2017.

Bydd tîm Wilkinson yn dechrau’r pencampwriaeth yn Lucerne yn erbyn yr Iseldiroedd ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf (5yp cic gnytaf), cyn teithio i St. Gallen i wynebu Ffrainc ar nos Fercher 9 Gorffennaf (8yh) a Lloegr ar nos Sul 13 Gorffennaf (8yh).

Yn ôl CBDC, bydd dros 2,000 o gefnogwyr Cymru yn y Wal Goch ar gyfer pob gêm yn y rownd gyntaf, a Cymru fydd un o’r timau gyda’r mwyaf o gefnogwyr yn y Swistir.

Cafodd y garfan ei chyhoeddi ar gopa’r Wyddfa, sydd yn 1,085 metr uwchben lefel y môr ac yn edrych dros Barc Cenedlaethol Eryri.

Yn ystod y dydd, bydd Wilkinson yn ymweld â CPD Talysarn ar gyfer gŵyl bêl-droed ac yna’n mynychu digwyddiad Gŵyl Cymru gyda sesiwn holi ac ateb a pherfformiad gan Adwaith yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Bydd Cymru’n teithio o Maes Awyr Gaerdydd ar ddydd Sul ar gyfer camp ymarfer ym Mhortiwgal am wythnos i baratoi ar gyfer yr EWROs.

Byddant wedyn yn cyrraedd y Swistir, lle bydd y tîm yn lleoli ei hun yn Lipperswil ac Weinfelden yng nghantwn Thurgau.

Carfan Cymru ar gyfer Ewros y Merched: Olivia Clark (Caerlŷr), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Poppy Soper (unattached), Charlie Estcourt (DC Power), Gemma Evans (Liverpool), Josie Green (Crystal Palace), Hayley Ladd (Everton), Esther Morgan (Sheffield United), Ella Powell (Bristol City), Rhiannon Roberts (unattached), Lily Woodham (Seattle Reign), Jess Fishlock (Seattle Reign), Alice Griffiths (unattached), Ceri Holland (Liverpool), Sophie Ingle (unattached), Angharad James (Seattle Reign), Lois Joel (Newcastle United), Rachel Rowe (Southampton), Kayleigh Barton (asiant rhydd), Hannah Cain (Caerlyr), Elise Hughes (Crystal Palace), Carrie Jones (IFK Norrköping), Ffion Morgan (Bristol City).

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Chwaraeon

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM Breakfast with Ray Owen

    7:00am - 10:00am

    Good Morning! Ray Owen is here to start your day with great music on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'