Wrth i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mona ddod i ben, mae'r cyfri wedi dechrau ar gyfer gŵyl y flwyddyn nesaf yng Nghasnewydd.
Bydd gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop yn ymweld â'r ddinas am y tro cyntaf yn 2027 gyda'r Maes wedi'i leoli ar dir Tŷ Tredegar.
Bydd gŵyl 2028 yn cael ei chynnal yn ardal Caernarfon - gyda'r lleoliad i'w benderfynu - tra bod disgwyl i Eisteddfod 2029 gael ei chynnal yng Ngheredigion yn dilyn cais gan y cyngor sir.
I nodi blwyddyn tan ddechrau Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen, mae dros 400 o blant a phobl ifanc o Gwent wedi bod yn rhan o brosiect i greu ‘Cân y Croeso gyda’r ddeuawd rap, Lloyd a Dom James.
Dwyeddod y Cynghorydd Jason Hughes, aelod y cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Gymraeg: "Mae Casnewydd yn ddinas Gymreig falch, ac mae defnydd o’r Gymraeg yn tyfu."
"Rydym yn gweld hynny yng ngwaith gwych ein Menter Iaith arbennig yn y gymuned, mewn bandiau Cymraeg sy’n perfformio mewn lleoliadau a gwyliau yng nghanol y ddinas, ac yn nhwf ein cymuned ysgolion cyfrwng Cymraeg."
"Mae hefyd yn wych bod yma yn Ynys Môn i lansio’r cyfri i lawr i Eisteddfod y flwyddyn nesaf. Wrth dyfu i fyny yng Nghaernarfon gyda llawer o deulu ar yr ochr hon i’r Fenai hefyd, mae’n golygu llawer i mi fod Casnewydd yn cymryd yr awenau i adeiladu ar lwyddiant digwyddiad eleni."
"Mae gennyf hefyd atgofion melys o fynychu nifer o wyliau Eisteddfod yr Urdd wrth dyfu i fyny, a chanu mewn corau ysgol ar y llwyfan, a’r hyder a’r balchder a ddaw gyda hynny, felly rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol y bydd pawb sy’n dod i Gasnewydd fis Mai nesaf yn cael amser bendigedig."
Ychwanegodd Elin Maher, cadeirydd y pwyllgor gwaith: "Mae cyffro gwirioneddol eisoes yn dechrau adeiladu ar draws y rhanbarth wrth i ni edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027."
"Mae llawer iawn o waith paratoi eisoes ar y gweill, ac mae’n hynod bwysig i ni sicrhau ein bod yn cyrraedd pob cymuned ar draws y rhanbarth, gan roi cyfle i bawb deimlo’n rhan o’r daith tuag at y brifwyl."
"Trwy gydweithio’n agos gydag ysgolion, partneriaid lleol a chymunedau ledled yr ardal, rydym am sicrhau y bydd yr ŵyl yn adlewyrchu amrywiaeth, egni a chreadigrwydd ardal Bro’r Wenynen."
"Bydd yn gyfle arbennig i arddangos popeth sydd gan y rhanbarth i’w gynnig, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at roi croeso cynnes i blant, pobl ifanc a theuluoedd o bob cwr o Gymru i ddathlu gyda ni ymhen blwyddyn."
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd ei fod wedi gwneud cais ffurfiol i wahodd yr Eisteddfod yn ôl i'r sir am yr tro cyntaf ers Y Bala yn 2014, a chafodd hynny ei dderbyn gan swyddogion yr Urdd.
Eleni, cynhaliwyd yr Eisteddfod lai na 30 milltir i ffwrdd ar faes Sioe Môn ym Mona, ger Gwalchmai.
Ddydd Mercher, croesawodd yr Urdd yn ffurfiol gais gan Gyngor Ceredigion i gynnal digwyddiad 2029, a fydd yn nodi canmlwyddiant yr ŵyl.
Yn ôl dogfennau, mae'r cyngor yn barod i wario hyd at £500,000 - ychydig o dan 20% o gyfanswm costau blynyddol Eisteddfod - er mwyn croesawu'r digwyddiad yn ôl am y tro cyntaf ers 2010 yng Nghiliau Aeron.
Mae'r Urdd yn bwriadu cynnal cyfarfod cyhoeddus y mis nesaf i ddechrau paratoadau gyda gwirfoddolwyr lleol.
Meddai Helen Medi, cadeirydd rhanbarth Ceredigion yr Urdd: “Pa le gwell i ddathlu canfed penblwydd yr Eisteddfod nag yng nghwmni'r Cardis! Rydym yn awchu i ddechrau ar y gwaith o gyd-weithio gyda'r holl ran-ddeiliaid er mwyn sicrhau y cyfleodd a'r profiadau gorau i'n plant a'n pobol ifanc."
Dyweddod Bryan Davies, arweinydd Cyngor Ceredgion: "Mae’n achlysur balch iawn i Geredigion gael y cyfle i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant, sy'n atgyfnerthu’r gwreiddiau a’r cysylltiadau dwfn sydd gan Ceredigion â'r Urdd."
"Mae’r ŵyl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r Gymraeg, y celfyddydau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Urdd a chymunedau lleol i wireddu Eisteddfod gofiadwy yn 2029."


Elin Undeg yn ennill Coron yr Urdd
Elin Undeg wins the Urdd Crown
Mari Pritchard is Friday’s President
Mari Pritchard yw Llywydd Dydd Gwener
Where next for the Urdd Eisteddfod?