Mae Urdd Gobaith Cymru wedi diolch o galon i'r Ynys Môn am estyn croeso cynnes i'r miloedd sydd wedi heidio i fwynhau a chystadlu ar faes prifwyl ieuenctid Cymru.
Mae'r trefnwyr hefyd yn dathlu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd o dorri recordiau.
- Gwelwyd 118,089 o gofrestriadau i gystadlu eleni, sef yr uchaf erioed i Eisteddfod yr Urdd yn y gogledd, a dros 14,000 o'r rheiny o Ynys Môn y ffigur uchaf erioed o'r ynys.
- Yn ystod yr wythnos cyhoeddwyd mai dyma'r Eisteddfod werddaf erioed y mudiad, drwy arbed 40 tunnell o allyriadau carbon diolch i'r defnydd o ynni gwyrdd.
- A thrwy gynnal gŵyl 7 diwrnod am y tro cyntaf erioed, roedd modd i'r trefnwyr lwyfannu cystadlaethau newydd sbon i siaradwyr Cymraeg newydd ac unigolion gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae diolch yr Urdd i holl wirfoddolwyr y mudiad am eu cynorthwyo i gynnal un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop ar Gae Sioe Môn, Gwalchmai eleni.
Yn ogystal â'r tri Phafiliwn ble bu plant a phobl ifanc Cymru yn cystadlu, mae'r maes wedi cynnig gweithgareddau i bobl o bob oed, a diolchwyd i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth ariannol barhaus er mwyn sicrhau mynediad am ddim i deuluoedd incwm is a chynnig Eisteddfod i Bawb unwaith eto.
Roedd arlwy S4C o Eisteddfod yr Urdd yn ehangach nag erioed eleni gyda dros 400 awr o ddarlledu, a hynny'n cynnwys ffrydio ar BBC iPlayer am y tro cyntaf.
Roedd y cystadlu brwd i'w weld ar draws y platfformau, gyda blas o'r hwyl ar y maes yn y darllediadau dyddiol ac ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol S4C.
Meddai Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau Urdd: "Ar ran yr Urdd, hoffwn ddiolch o galon i'r miloedd o gystadleuwyr ac ymwelwyr am gyfrannu at lwyddiant ein prifwyl eleni, ac i'r pwyllgor gwaith lleol am eu brwdfrydedd dros y tair mlynedd ddiwethaf ac am estyn cystal groeso."
"Diolch hefyd i'r holl athrawon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ledled Cymru am eu gwaith diflino, ac am sicrhau cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc drwy'r Urdd. Hoffwn hefyd ddiolch i'n noddwyr a'n partneriaid am eu cefnogaeth parhaus."
"Edrychwn ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen, Gwent 2027 i gael ail-fyw hud yr ŵyl arbennig hon."
Cyhoeddwyd teilyngdod ym mhob un o brif seremonïau'r Eisteddfod eleni:
- Dyfarnwyd Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Katie Baddiley yn wreiddiol o Nottingham sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, a Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) i Caerwyn Saunders o Dreorci.
- Dafydd Llŷr Hughes o Lanbedrog, Pen Llŷn oedd enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc ac am yr ail flwyddyn yn olynol, Lleucu-Haf Thomas o Sir Benfro oedd enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.
- Cipiodd Heledd Wynn Newton, sy'n 21 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, y Fedal Gyfansoddi.
- Cyhoeddwyd Glain Llwyd o Dal-y-bont ger Aberystwyth yn Brif Ddramodydd.
- Lois Medi yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor yw Prifardd yr Eisteddfod – y ferch gyntaf yn hanes y gystadleuaeth i ennill y gadair ar fwy nag un achlysur.
- Coronwyd Elin Undeg Williams o Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych yn Brif Lenor yr ŵyl.
Mared Eos Phillips o Ysgol Bro Preseli, Penfro sy'n derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni - ysgoloriaeth a wobrwyir i'r cystadleuwyr mwyaf addawol yn yr oedran blwyddyn 10 a dan 19 oed.
Mae Mared wedi bod yn brysur iawn eleni ac wedi profi llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth gan gynnwys perfformiad o gân Sioe Gerdd a'r Unawd S/A yn ogystal â bod yn aelod o gôr Gwerin Tri Llais, Detholiad o Ddrama Gerdd a Chôr S.A. Ysgol Bro Preseli.
Cyhoeddwyd enillwyr gwobrau'r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i chwech o gystadleuwyr 19-25 oed, sef:
- Leisa Mair Lloyd-Edwards, enillydd Gwobr Syr Bryn Terfel (Unawd 19-25 oed)
- Elen Morlais Williams, enillydd Gwobr Amy Dowden (Dawns werin merched bl10 a dan 25)
- Anna Walker, enillydd Gwobr Callum Scott Howells (Perfformiad cân o sioe gerdd)
- Jona Milone, enillydd Gwobr Matthew Rhys (Monolog 19-25 oed)
- Carwyn Lloyd, enillydd Gwobr Rakhi Singh (Offerynnol 19-25 oed)
- Cadi Davage, enillydd Gwobr Sarah Hemsley-Cole (Cefn llwyfan)
Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen, Gwent 2027 yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd a hynny am y tro cyntaf erioed.
Ardal Caernarfon, rhanbarth Eryri fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2028 ac mae'r Urdd wedi derbyn gwahoddiad Cyngor Sir Ceredigion i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2029 yn y rhanbarth, ym mlwyddyn dathlu canmlwyddiant y brifwyl.


Urdd thanks Anglesey for Eisteddfod welcome
Urdd Eisteddfod 2026: local results
Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol
Elin Undeg yn ennill Coron yr Urdd
Elin Undeg wins the Urdd Crown