Mae traethau ac afonydd Ynys Môn wedi ysbrydoli'r Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026.
Dadorchuddiwyd yr prif wobrau mewn digwyddiad arbennig yn Oriel Môn ger Llangefni nos Fawrth.
Y mis hwn, bydd gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop yn cael ei chynnal ar faes sioe Mona am y tro cyntaf ers 2004.
Mae'r gadair, a noddwyd gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn, wedi'i dylunio gan y pensaer o Gaerwen, Rhiannon Williams o gwmni Dewis Architecture, ac wedi'i hadeiladu gan y saer coed o Lanfaelog, Siôn Edwards.
Roedd ei dyluniad yn seiliedig ar y thema 'afonydd i'r môr', ac yn rhoi sylw i felinau gwynt yr ynys hefyd, fel Melin y Bont yn Nhŷ Croes.
Meddai Siôn, sy'n gyn-athro dylunio a technoleg a bellach yn gweithio fel saer ar ei lliwt ei hun: "Pan glywes i beth oedd thema dyluniad Rhiannon ro'n i wedi cyffroi,"
"Un o'm prif ddiddordebau i ydi pysgota, a dwi hefyd wedi sefydlu Cymdeithas Cadwraeth Cefni rai blynyddoedd yn ôl er mwyn gwella ansawdd yr afonydd yma ym Môn, felly roedd 'afonydd i'r môr' yn sicr wedi tanio brwdfrydedd!"
Yn ogystal â physgota, mae Siôn yn angerddol am greu dyluniadau cynaliadwy a hirhoedlog.
"Ro'n i'n benderfynol o ffeindio coed cynaliadwy lleol o ansawdd, ac yn y diwedd, ar ôl chwilio a chwilio, fe weles i goeden onnen wedi ei melino draw yng Nghwm Cynfal, ger Blaenau Ffestiniog, ac ro'n i'n gwybod y byddai'n berffaith ar gyfer y gadair."
Mae holl gymalau'r gadair i'w gweld fel nodwedd addurniadol, ac hefyd fel bod modd eu hadfer a'u hatgyweirio yn y dyfodol petai angen, ond mae hanes o'r gorffennol yn perthyn i'r gadair hefyd.
"Mae yna hanes lleol arbennig iawn i bren cymalau'r gadair," esbonia Siôn. "Mae criw o wirfoddolwyr o Rosneigr wedi cario hen fad achub yn ôl i'r pentref yn ddiweddar i'w harbed rhag cael ei llosgi, cwch o'r enw Thomas Lingham y 4ydd."
"Fe adawodd y pentref yn 1924, ac mae'n bosib i'r cwch fod yno yn ystod cyrch D-Day ar draethau Normandie. Fe ddaeth un o'r criw o wirfoddolwyr a sampl o bren y cwch i mi, i weld a fyddai gen i ddiddordeb ei hatgyweirio."
"A dyma'r pren dwi wedi ei ddefnyddio i wneud lletem, neu wedges y gadair. Felly mae rhan fach o hanes rhyfeddol y bad achub o Rosneigr bellach yn rhan o gadair Eisteddfod Môn hefyd."
Y Goron, a noddir gan yr asiantau tai lleol Eiddo Cyf, yw gwaith y gemydd Myfanwy Jones o Lanfairpwll, a ddychwelodd i Ynys Môn yn 2022, ar ôl pymtheg mlynedd yn gweithio yn Llundain, lle cwblhaodd radd mewn dylunio gemwaith yng Ngholeg Central Saint Martins, sy'n enwog ledled y byd.
"Dwi'n mwynhau bod yn ôl adra, ac mae'n wych cael y cyfle i ddylunio Coron Eisteddfod yr Urdd - dwi erioed wedi dylunio coron o'r blaen!", meddai Myfanwy.
Mae'r goron eleni wedi ei gwneud o bres ac mae'n cynnwys dau garreg opal, yn ogystal â cherrig jâd bach, gyda melfed gwyrdd meddal ar y tu mewn, y cyfan yn adleisio lliwiau traethau Môn.
"Cyn dechrau dylunio nes i roi poll ar Instagram i holi beth oedd yn dod i feddyliau pobl wrth iddyn nhw feddwl am Ynys Môn, a'r ateb mwyaf poblogaidd oedd y traethau."
"Wedyn fe fues i'n gwneud ymchwil i draethau a symbolau Celtaidd yr ynys, felly mae'r rhain i gyd yn themâu cryf yn nyluniad y goron."
Mae Myfanwy yn creu ei gemwaith gan ddefnyddio techneg cerfio cwyr arbenigol ac sydd wedi dylunio llawer o emwaith ar gyfer ffilm a theledu, yn ogystal â gweithio ar gomisiynau gemwaith cain yn ystod y blynyddoedd diweddar.
"Dwi'n edrych ymlaen at weld ymateb pobl i'r goron, ac at fynd i'r Eisteddfod hefyd," meddai Myfanwy. "Yn ddiweddar fe wnes i ddod o hyd i fedalau wnes i ennill yn yr Urdd wrth ganu gyda'r côr pan yn yr ysgol! Mi fydd yn braf iawn bod ar y maes yn fy milltir sgwâr, a gweld pwy sy'n ennill y goron."
Cynhelir y seremoni goroni ar ddiwrnod olaf yr eisteddfod - dydd Gwener 29 Mai - wrth i'r ŵyl ehangu i wythnos gyfan am y tro cyntaf yn ei hanes.
Bydd seremoni'r Cadeirio yn cael ei gynnal ar ddydd Iau'r Eisteddfod
Ychwanegodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydol Urdd Gobaith Cymru: "Mae Ynys Môn wrth galon Cadair a Choron yr Urdd eleni; mae eu cysylltiad â'r ynys i'w weld a'i deimlo ym mhob manylyn bach, o'r dyluniadau a'r deunyddiau i'r straeon a'r hanes sy'n rhan annatod ohonynt."
"Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at wythnos yn Eisteddfod, gan obeithio y bydd enillwyr yn cipio'r Gadair a'r Goron. Diolch o galon i'r crefftwyr talentog, y pwyllgorau a'r noddwyr am eu gwaith di-flino a'u cefnogaeth hael."
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 ar Gae Sioe Môn, Mona, rhwng Dydd Sadwrn 23 Mai a Dydd Gwener 29 Mai.


Urdd 2026: Chair and Crown unveiled
Gorsedd: Green Robes for Malachy
Seven Honorary Presidents for Urdd 2026