Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau cerbyd ar gyrion Pwllheli.
Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta du ac Audi A3 coch.ar yr A499 yn Y Ffôr tua 10.10yh nos Sadwrn diwethaf.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, bu farw gyrrwr y Ford yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys.
Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod a bydd crwner Gogledd Orllewin Cymru yn agor cwest maes o law.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod pedwar ambiwlans wedi'u hanfon i’r lleoliad, yn ogystal ag uned ymateb.
Galwyd Ambiwlans Awyr Cymru a hofrennydd chwilio ac achub o Gaernarfon i leoliad y ddamwain hefyd.
Cafodd dau o bobl eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke a chafodd trydydd person ei gludo mewn ambiwlans.
Roedd y ffordd ar gau dros nos yn ystod gwaith ymchwilio.
Dywedodd y Rhingyll Duncan Logan o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Rwy'n cynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i'r teulu yn yr amser anodd hwn. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a stopiodd i gynorthwyo yn y fan a'r lle a chefnogi'r gwasanaethau brys."
"Rwy'n annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio neu'n cerdded yn y cyffiniau ac sydd â lluniau ffôn symudol neu gamera dashcam, i gysylltu cyn gynted â phosib."
Mewn datganiad, dyweddod Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionydd: "Yn hynod drist o glywed am farwolaeth drasig dyn ifanc mewn damwain ger Y Ffôr, Pwllheli neithiwr."
"Mae fy nghalon yn mynd allan at ei deulu a’i ffrindiau. Hefyd rwy’n anfon fy meddyliau at y rhai a anafwyd. Hoffwn hefyd estyn fy niolch i’r gwasanaethau brys a ymatebodd mewn amgylchiadau mor heriol."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000247901.


Cwpan Cymru: mwy o drenau ar ddiwrnod y ffeinal
Trysorau Môn mewn arddangosfa newydd
Carcharu dyn o Fangor am gludo cocên
Aldi i greu 40 o swyddi ym Mhorthaethwy?
Y Bandana yn ailffurfio ar gyfer Eisteddfod 2026