Mae astudiaeth wedi'i chynnal i helpu gwarchod rhywogaethau adar sensitif yn Nhraeth Lafan ger Bangor.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae arolwg wedi'i gwblhau i wella dealltwriaeth o sut y gall gweithgareddau dynol darfu ar adar hirgoes sy'n gaeafu yn un o safleoedd bywyd gwyllt arfordirol pwysicaf.
Nod y gwaith oedd archwilio pam bod rhywogaethau fel piod môr a gylfinirod wedi lleihau eu defnydd o’u mannau clwydo gaeaf traddodiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Cynhaliodd contractwr arsylwadau maes i gofnodi pa mor aml roedd adar yn defnyddio'r mannau clwydo, pa mor aml y cawsant eu tarfu, a pha weithgareddau oedd fwyaf tebygol o greu aflonyddwch.
Roedd y gwaith maes hefyd yn cynnwys arolygon ymwelwyr ym meysydd parcio Morfa Aber ac Aber Ogwen, ynghyd ag arsylwadau golygfeydd yn edrych dros yr ardal rhynglanwol.
Dywedodd Dewi Evans, swyddog arbenigol ar reolaeth rhynglanwol gan CNC: "Mae Traeth Lafan yn gartref i rai o adar gaeafu mwyaf gwerthfawr Cymru, gan gynnwys piod môr, gylfinirod a rhywogaethau eraill sy'n rhan o'n treftadaeth naturiol."
"Bydd yr arolwg hwn yn cryfhau ein dealltwriaeth o'r pwysau mae nhw'n eu hwynebu, a bydd y dystiolaeth a gesglir yn ein helpu i wneud penderfyniadau sy'n diogelu'r lle arbennig hwn ar gyfer y dyfodol."
Bydd y dystiolaeth yn llywio penderfyniadau ar reoli cynefinoedd ac yn cefnogi ymdrechion ehangach i ddiogelu'r poblogaethau adar sy'n gaeafu yn Nhraeth Lafan. Ariannwyd y gwaith drwy’r raglen rhwydweithiau natur gan Lywodraeth Cymru.


Caffi newydd Ysbyty Gwynedd yn agor
Cynllun 'Dyfodol Môn' yn dychwelyd
'Adwyfio Bangor' yn nodi ei blwyddyn gyntaf
Pwllheli: enwi dyn 'gofalgar' a fu farw ar yr A499
Cwpan Cymru: mwy o drenau ar ddiwrnod y ffeinal