Mae arolygwyr wedi canmol gwasanaethau maethu ar Ynys Môn mewn adroddiad newydd.
Cynhaliwyd gwiriad sicrwydd ym mis Ionawr fel rhan o arolygiad ehangach o wasanaethau i blant a theuluoedd gan Gyngor Ynys Môn.
Yn ôl yr archwiliad gan Arolygiaeth Gofal Cymru, mae'r gwasanaeth yn cynnig cartrefi sefydlog a chefnogol i blant a phobl ifanc, ac yn eu helpu i deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael cefnogaeth tra mewn gofal.
Roedd gan Maethu Cymru Môn 128 gofalwr maeth mewn 71 aelwyd yn cefnogi 89 o blant, ac yn darparu amrywiaeth o leoliadau yn cynnwys hirdymor, tymor byr, preswyl a maethu person cysylltiedig.
Dyweddod Fôn Roberts, cyfarwyddwr gwasanethau cymdeithasol Cyngor Môn: "Mae'n galonogol iawn gweld Arolygiaeth Gofal Cymru yn cydnabod fod y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu o'r ansawdd gorau."
"Mae gofalwyr maeth yn chwarae rôl hollbwysig o ran darparu cartrefi diogel a sefydlog, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant, arweiniad a chymorth gofynnol i gyflawni'r rôl bwysig hon. Mae ein gofalwyr maeth yn wych!"
Mae'r adroddiad yn amlygu sut mae plant yn profi sefydlogrwydd yn eu lleoliadau ac yn cael cefnogaeth i feithrin perthnasau cadarnhaol gyda gofalwyr maeth.
Mae plant hefyd yn cael cyfleoedd i fynegi eu barn am eu gofal a phrofiadau bob dydd, sy'n sicrhau bod eu lleisiau'n helpu i siapio penderfyniadau sy'n dylanwadu arnyn nhw.
Roedd yr archwilwyr yn cydnabod ymrwymiad a sgiliau staff a'r gofalwyr maeth, gan nodi fod gan y tîm maethu staff sydd ag amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol a phrofiadau.
Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu sut mae gofalwyr maeth yn cael eu hannog a'u cefnogi i helpu plant gymryd rhan mewn gweithgareddau maen nhw'n eu mwynhau, cefnogi eu datblygiad, hyder a'u llesiant.
Mae gofalwyr maeth eu hunain yn elwa o hyfforddiant Gwybodus am Drawma, goruchwyliaeth cyson a rhwydweithiau cymorth cryf, sy'n eu helpu i gynnig y gofal gorau posibl i blant a phobl ifanc.
Mae Gwasanaeth Maethu'r Cyngor hefyd yn sicrhau bod anghenion ieithyddol y plant yn cael eu bodloni, gyda staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i gefnogi plant sydd eisiau cyfathrebu a byw drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd arweinyddiaeth gref o fewn y gwasanaeth hefyd ei chydnabod, gydag arweinwyr yn darparu trywydd clir, goruchwyliaeth ac ymrwymiad at welliannau parhaus.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, sy'n dal y portffolio ar gyfer plant a theuluoedd: "Rydym yn falch iawn fod yr arolwg hwn yn cydnabod penderfynoldeb ein tîm maethu ac ymrwymiad arbennig ein gofalwyr maeth ledled Ynys Môn."
"Rydym bob amser yn chwilio am deuluoedd maeth i ymuno â'n tîm arbennig a darparu cartrefi croesawgar ar gyfer plant a phobl ifanc lleol."
"Os hoffech helpu plant i aros yn ein cymuned, rwy'n eich annog i gysylltu â thîm arbennig Maethu Cymru Môn am sgwrs anffurfiol, ac i ddysgu mwy am faethu'n lleol."
Mae adroddiad hefyd wedi canmol gwasanaethau ar gyfer chryfderau clir o ran diogelu, ymarfer ataliol a gweithio mewn partneriaeth, ond yn ôl yr arolygiaeth, mae gwasanaethau plant ar Ynys Môn yn wynebu 'pwysau gwirioneddol a chynyddol'.


Cytundeb newydd ar gyfer adweithydd Wylfa
Bangor: rhybudd ar ôl cynnydd mewn lladradau
Gwobr fawr i raglen chwaraeon gynhwysol
Porthmadog: apêl wedi ymosodiad gan grŵp
Cyllid ar gael i wella eiddo masnachol