
Mae dros 1,100 o fêps anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu o ddau safle manwerthu yng Nghaergybi.
Yn ôl Cyngor Ynys Môn, amcangyfrifir bod y fêps a gafodd eu hatafaelu yn ystod ‘Ymgyrch Jackal’ werth £6,500 yn y siopau.
O’r nwyddau a atafaelwyd, roedd y busnesau wedi ildio 404 yn wirfoddol.
Yn dilyn ymchwiliad pellach, cafodd 42 o fêps eu dychwelyd gan eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau cyfredol. Yn ddiweddarach, dinistriwyd y fêps oedd ddim yn cydymffurfio.
Roedd yr ymgyrch yn cyd-fynd â gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar fêps untro a ddaeth i rym ar 1 Mehefin. O dan y gyfraith newydd mae’n anghyfreithlon bellach i fusnesau yng Nghymru werthu neu gyflenwi unrhyw fêps untro neu dafladwy.
Dywedodd Chris Burrow, Rhingyll Cefnogi Ardal Ynys Môn gyda Heddlu Gogledd Cymru, “Byddwn yn parhau i weithio’n agos â Safonau Masnach a phartneriaid eraill i warchod iechyd a lles y gymuned, a phobl ifanc yn enwedig."
“Mae ymgyrchoedd aml-asiantaeth fel yr un yma’n dangos pa mor werthfawr yw gwaith partneriaeth a rhannu adnoddau er mwyn ymchwilio ac ymladd trosedd difrifol a throsedd cyfundrefnol."
“Yn aml, mae cyflenwi cynhyrchion tybaco anghyfreithlon trwy rwydweithiau trosedd cyfundrefnol yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall, a dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i amharu ar y busnes cynhyrchion tybaco anghyfreithlon."
“Byddwn yn annog aelodau’r gymuned sy’n pryderu am weithgareddau anghyfreithlon posib yn eu tref leol i gysylltu â’r heddlu neu safonau masnach, neu adrodd y mater yn ddienw trwy Crimestoppers.”
O dan y deddfau newydd, mae’r rhaid i ddyfeisiau fêpio bellach fod yn rhai y gellir eu hailwefru a’i hail-lenwi er mwyn eu gwerthu neu eu dosbarthu’n gyfreithlon.
Yn ogystal â niweidio’r amgylchedd, mae risgiau iechyd sylweddol yn gysylltiedig â fêps untro, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Mae’r dyfeisiau yn aml yn cynnwys lefelau uchel o nicotin a blasau apelgar, gan olygu eu bod yn ddeniadol i ddefnyddwyr dan oed.
Dwyeddod y Cynghorydd Nicola Roberts, sy'n dal y portffolio Gwarchod y Cyhoedd yng Nghyngor Môn: "Mae ein tîm safonau masnach yn parhau i weithio’n ddiflino gyda Heddlu Gogledd Cymru, ac asiantaethau partner eraill, i helpu i dynnu cynhyrchion anghyfreithlon a niweidiol oddi ar ein strydoedd."
“Mae gwarchod pobl rhag cynhyrchion a all fod yn niweidiol o’r pwys mwyaf wrth i ni geisio gwarchod lles y cyhoedd.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor sir: "Bydd Cyngor Môn a Heddlu Gogledd Cymru’n parhau i gynnal gweithgareddau gorfodaeth er mwyn cynorthwyo busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau ac atal cynhyrchion anghyfreithlon neu niweidiol rhag cael eu gwerthu yn ein cymunedau."