Bae Cemaes: carcharu dyn am werthu cocên

Wednesday, 28 January 2026 17:56

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn 29 oed o Fae Cemaes wedi cael ei garcharu am werthu cocên.

Mi gyflawnodd yr heddlu warant yng nghartref Jordan Jones ychydig cyn y Nadolig, lle mi ganfu swm sylweddol o gocên ac arian parod.

Mi chwiliwyd ei gar hefyd, ac mi ganfuwyd ychwaneg o gyffuriau, arian parod ac arfau.

Pleidiodd Jones, o Stad Cae Rhun, yn euog i fod yn meddu gyda’r bwriad i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A, meddu eiddo troseddol a meddu arf ymosodol mewn lle preifat.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a deg mis yn y carchar.

Mi gafodd yr arian parod ei atafaelu fel rhan o orchymyn fforffedu a dinistrio a bydd yn cael ei ddefnyddio gan Heddlu Gogledd Cymru.

Dyweddod Cwnstabl Jamie McDaid: "Does dim croeso ar Ynys Môn i unigolion sy’n ceisio gwneud arian ar draul pobl fregus."

"Mae cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn hyrwyddo trais, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddoldeb ehangach. Mae’n cael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymdogaethau."

"Ni wnawn ni oddef gwerthu cyffuriau, ac mae dedfryd Jones yn rhybudd ein bod ni’n ymchwilio’n drylwyr ac yn erlid y bobl hynny sy’n gysylltiedig."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'